Prydau bwyd ysgol am ddim i gyrraedd mwy o ddisgyblion nag erioed

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 21 Gorffennaf 2022

O fis Medi, bydd prydau ysgol am ddim ar gael i unrhyw ddisgyblion meithrin llawn amser, a disgyblion mewn Dosbarthiadau Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol ledled Torfaen, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn cyflwyno prydau ysgol am ddim gan ddechrau gyda'u dysgwyr ieuengaf, gyda'r nod o sicrhau bod pob disgybl ysgol gynradd yn cael pryd ysgol am ddim erbyn 2024.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r Tîm Arlwyo am weithio mor galed i sicrhau y bydd  disgyblion meithrin llawn amser, ynghyd â disgyblion Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 yn cael prydau ysgol am ddim o fis Medi ymlaen.

"Y terfyn amser i weithredu hyn, a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd dan sylw yw Pasg 2023, felly mae'r tîm wedi mynd y tu hwnt i'r hyn a ofynnwyd iddynt.

"Mae sicrhau bod plant yn cael pryd maethlon hyd yn oed yn bwysicach nag erioed, gyda mwy o deuluoedd yn cael trafferth gyda chostau byw."

"Bydd y Tîm Arlwyo yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion, i sicrhau bod cymaint o ddisgyblion â phosibl yn gallu cael prydau ysgol am ddim cyn gynted â phosibl."

Er mwyn sicrhau bod pob plentyn sy'n gymwys yn derbyn pryd ysgol am ddim, mae ffurflen ar-lein newydd wedi'i chreu y mae angen i rieni a gofalwyr ei llenwi erbyn 31 Gorffennaf 2022.  Bydd y ffurflen yn helpu i nodi unrhyw ofynion dietegol arbennig i helpu wrth baratoi bwydlenni.

Dim ond ar gyfer disgyblion a fydd mewn unrhyw ddosbarth meithrin llawn amser, Dosbarthiadau Derbyn, Blwyddyn 1 neu Flwyddyn 2 o fis Medi 2022 y dylid llenwi'r ffurflen. Llenwch y ffurflen yma: https://bit.ly/3RMKLte

Os ydych chi’n cael trafferthion gyda chostau byw, ewch i’n tudalen cymorth costau byw ar y wefan.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/07/2022 Nôl i’r Brig