Cysylltu Torfaen

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 21 Gorffennaf 2022
Connect Torfaen  - Instagram July 22 - Jan 23

Mae dros 400 o bobl a sefydliadau wedi ymuno â gwefan newydd sy’n ceisio dod â chymunedau ynghyd.

Mae safle Cysylltu Torfaen yn prysur ddatblygu’n siop un stop i unrhyw un sydd am wybod pa weithgareddau a digwyddiadau sy’n digwydd yn eu hardal leol.

Mae’n cynnig cyfle hefyd i bobl ddysgu mwy am gyfleoedd i wirfoddoli gyda grwpiau a sefydliadau lleol.

Mae Alison Lee Academy of Dance yn un o’r diweddaraf i ymuno â’r safle, sy’n dathlu ei ben-blwydd cyntaf y mis yma.

O’i safle yn Neuadd Eglwys Sant Paul ym Mlaenafon, mae’r academi dawns yn dysgu Jazz Modern, Bale a Dawnsio Tap ac maen nhw’n gobeithio cynyddu eu haelodaeth trwy lwyfan Cysylltu.

Dywedodd yr hyfforddwraig dawns, Alison Instone: "Rwy’n credu bod Cysylltu Torfaen yn adnodd ardderchog ar gyfer dod â phobl at ei gilydd.  Mae ymuno’n syml ac mae’r safle’n teimlo’n gyfoes ac mae’n rhwydd ei ddefnyddio.

“Gyda dros 25 mlynedd o brofiad, rwy’n gobeithio cael mwy o aelodau trwy'r safle ac ehangu’r cariad at ddawns.  Felly, dewch i weld beth sy’n gyda ni i’w gynnig a dewch i fod yn rhan o’n teulu dawns anhygoel.”

Mae dros 150 o restriadau cymunedol wedi cael eu hychwanegu at y safle eisoes, gan gynnwys sesiynau codi sbwriel, sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar a grwpiau cerdded, felly mae’n amser gwych i gofrestru.

Wrth gofrestru fel aelod ar y wefan yn gyntaf bydd angen i chi gwblhau tudalen broffil.

Os ydych yn cynrychioli mudiad, grŵp cymunedol neu fusnes, bydd gofyn i chi greu gweithgaredd, a all fod yn ddigwyddiad, rhestr gymunedol, cyfle gwirfoddoli neu bleidlais.

Felly, p’un a ydych chi am hyrwyddo digwyddiad cymunedol neu am wybod beth sy’n digwydd ar stepen eich drws, cofrestrwch heddiw a dechreuwch gysylltu â’ch cymuned - www.connecttorfaen.org.uk

Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd a Chymunedau: “Mae’n wych bod cymaint o bobl a grwpiau’n defnyddio safle Cysylltu Torfaen er iddo gael ei lansio llynedd.

“Cysylltu Torfaen yw’r lle i fynd i drigolion y fwrdeistref sy’n chwilio am gyfleoedd i wirfoddoli neu am weithgareddau a fydd, mae’n siŵr, yn cael effaith gadarnhaol ar ei lles meddyliol a chorfforol.”

"Os nad ydych chi wedi cofrestru neu wedi ymweld, buaswn i’n eich annog chi i wneud hynny.  Mae’r safle’n mynd o nerth i nerth a, gyda hyd yn oed mwy o aelodau’r gymuned, gallwn wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau’n gilydd a’r gymuned ehangach”.

Mae Cysylltu Torfaen yn bartneriaeth rhwng Cynghrair Gwirfoddol Torfaen (TVA) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Dywedodd Aimi Morris, Swyddog Gweithredu CGT:

Mae wedi bod yn 12 mis cyffrous, yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Chyngor Torfaen i ddatblygu'r man agored hwn i drigolion gael hyd i’r wybodaeth leol. Rydym wedi gweld Cysylltu Torfaen yn tyfu mewn poblogrwydd yn ystod y flwyddyn gyntaf hon ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'r gymuned i weld hyn yn parhau i dyfu yn 2022 a 2023. 

“Rydym bob amser yn awyddus i gyflwyno nodweddion newydd ar y safle, ac un nodwedd o'r fath a fydd yn cael ei rhyddhau cyn bo hir yw map rhithwir hawdd ei ddefnyddio. Bydd y map hwn yn well ar y llygad wrth ichi chwilio am yr hyn sy’n mynd ymlaen yn eich ardal. Felly, cadwch lygad allan.”

Diwygiwyd Diwethaf: 21/07/2022 Nôl i’r Brig