Canfasiad blynyddol 2022

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 21 Gorffennaf 2022

Mae trigolion Yn Nhorfaen yn cael eu hannog i wirio eu manylion cofrestru etholiadol neu wynebu'r perygl o golli eu cyfle i bleidleisio ar benderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Mae'r canfasiad blynyddol yn caniatáu i Gyngor Torfaen sicrhau bod y gofrestr etholiadol yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf, i weld pwy sydd mewn perygl o golli eu llais mewn etholiadau, a'u hannog i gofrestru cyn ei bod yn rhy hwyr.

Gall mwy o bobl bleidleisio yn etholiadau Cymru nag erioed o'r blaen, felly mae hwn yn gyfle pwysig i ddiweddaru'r gofrestr etholiadol. Gall unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn bleidleisio yn etholiadau llywodraeth leol a Senedd Cymru, waeth ble y cawsant eu geni.

Meddai Caroline Genever-Jones, Dirprwy Swyddog Canlyniadau yng Nghyngor Torfaen:

“Mae'r canfasiad blynyddol yn mynd rhagddo, a bydd aelwydydd yn dechrau derbyn llythyrau canfasio o ddydd Llun nesaf. Dyma ein ffordd o sicrhau bod y wybodaeth ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yn gywir.

“Os byddwch chi’n derbyn Gohebiaeth Ganfasio A, a bod y wybodaeth yn gywir, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Os ydych chi'n derbyn Gohebiaeth Ganfasio B bydd angen i chi ddiweddaru'r wybodaeth a'i dychwelyd atom ni. I'r aelwydydd sydd eisoes wedi derbyn ac wedi ymateb i e-bost gan ein tîm cofrestru etholiadol, ni chewch lythyr.”

 "Os na fyddwch yn clywed gan y cyngor o gwbl, efallai na fyddwch ar y gofrestr. Y ffordd hawsaf i gofrestru yw ar-lein, ar www.gov.uk/register-to-vote. Os mai e-bost yw eich dull orau o gyfathrebu, rhowch eich cyfeiriad e-bost ar y ffurflenni cofrestru ar safle llyw.cymru".

Anogir y rheini sydd wedi symud cartref yn ddiweddar i wirio eu manylion.

Mae ymchwil gan y Comisiwn Etholiadol wedi canfod bod y rheini sydd wedi symud cartref yn ddiweddar yn llai tebygol o fod wedi cofrestru na'r rhai sydd wedi byw yn yr un cyfeiriad ers amser maith. 

Gall trigolion sydd â chwestiynau am eu statws cofrestru gysylltu â thîm gwasanaethau etholiadol eu cyngor lleol ar 01495 762200 neu email voting@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 21/07/2022 Nôl i’r Brig