Wedi ei bostio ar Dydd Iau 14 Gorffennaf 2022
Bydd atyniadau’r Tŵr Ffoledd a’r Groto Cregyn yn ailagor ar ôl gwaith adnewyddu gwerth £45,000.
Mae Cyngor Torfaen wedi gweithio’n agos â Chyfeillion Parc Pont-y-pŵl i gynllunio a gweithredu gwaith adnewyddu, ar ôl pryderon a fynegwyd gan y gymuned am gyflwr yr adeiladau.
Gyda chymorth Cronfa Adferiad Covid y Cyngor, mae teils to’r Groto Cregyn wedi eu hatgyweirio, mae’r waliau y tu fewn wedi cael eu hailadeiladu ac mae’r gwaith addurno wedi ei adnewyddu hefyd.
Yn y Tŵr Ffoledd mae gwaith atgyweirio wedi bod i’r dur, y pren a’r gwydr, mae gwaith adfer wedi ei wneud i’r addurniadau mewnol ac allanol, ac mae grisiau cerrig newydd wedi eu gosod ar y tu allan.
Bydd y ddau adeilad ar agor i’r cyhoedd ar ddydd Llun Gŵyl y Banc, 29 Awst, diolch i Gyfeillion Parc Pont-y-pŵl.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Rydw i mor falch bod yr adeiladau eiconig yma wedi cael eu diogelu i’n cymunedau ac ymwelwyr gael eu mwynhau. Mae’n enghraifft wych o’r Cyngor yn gweithio’n agos â grwpiau cymunedol i gyflenwi prosiectau sydd o fudd i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.”
Dywedodd cynrychiolydd o grŵp Cyfeillion Parc Pont-y-pŵl: “Allwn ni ddim aros i ddangos y groto a’r ffoledd i ymwelwyr. Mae hi wedi bod yn amser hir i aros i arddangos ein hadeiladau mwyaf gwerthfawr mewn parc mor anhygoel.”
Mae dyddiadau agor y Tŵr Ffoledd a’r Groto Cregyn i’w gweld ar dudalen Facebook Cyfeillion Parc Pont-y-pŵl ble gall y cyhoedd ofyn am wybodaeth bellach.