Dewch i fod yn Declynnwr gyda Llyfrgelloedd Torfaen

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 6 Gorffennaf 2022

Mae Her Darllen Blynyddol yr Haf yn ôl, ac eleni mae’n fwy dyfeisgar nag erioed!

Gyda mynediad am ddim at lyfrau, a gweithgareddau creadigol, mae Her Darllen yr Haf yn ffordd wych o gadw plant i ddarllen trwy gydol yr haf.

Trwy gydol yr her, bydd Llyfrgelloedd Torfaen yn helpu plant i ddod o hyd i awduron ac arlunwyr newydd, gan eu hannog i ystyried amrywiaeth o lyfrau a ffyrdd o ddarllen. 

Gallwch ymweld â’ch llyfrgell leol i gofrestru ar gyfer her eleni o ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf a’r thema yw ‘Teclynnwyr’. Bydd pob plentyn yn derbyn poster Teclynnwyr, ac yn casglu sticeri arbennig wrth iddyn nhw ddarllen i gwblhau eu poster ynghyd â gwobrau arbennig eraill.  Mae yna her fach i’r darllenwyr lleiaf hefyd.

Wrth galon Her Darllen yr Haf yw fod plant yn dewis ac yn rhannu lyfrau eu dewis, mewn unrhyw fformat. Mae nofelau, llyfrau ffeithiol, llyfrau lluniau, nofelau graffig, llyfrau jôcs, eLyfrau a chlywlyfrau i gyd yn cyfrif yn yr her.

Bydd darllenwyr brwd sy’n cwblhau’r her yn derbyn medel, ac yn cael cyfle i ennill gwobr arbennig.

Bydd gwefan swyddogol, yn cynnwys fideos gan awduron, gemau a mwy i blant fwynhau dros yr haf.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, yr Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: “Mae darllen yn sgil pwysig i blant ei gael ac mae gwneud darllen yn hwyl yn ffordd wych o annog plant i barhau i ddarllen trwy gydol eu plentyndod.

“Mae Her Darllen yr Haf bob amser yn hwyl ac yn afaelgar, felly rwy’n annog rhieni a gofalwyr i gofrestru eu plant yng Ngorffennaf.”

I gael y diweddaraf am yr her yn Nhorfaen, dilynwch Lyfrgelloedd Torfaen ar Facebook.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 06/07/2022 Nôl i’r Brig