Cau ffyrdd ar gyfer ras 10k Torfaen

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 4 Gorffennaf 2022
Mic Morris Map

Bydd ffyrdd ar gau rhwng Blaenafon a Phont-y-pwl er mwyn caniatáu ras 10k Mic Morris Torfaen ddydd Sul yr wythnos hon.

Bydd tua mil o redwyr yn cychwyn arni o Flaenafon am 9am ac yn rhedeg tuag at Cwmavon Road cyn ymuno â Limekiln Road yn Abersychan, pan fydd y llwybr yn eu tywys tuag at Bont-y-pŵl a’r llinell derfyn ym Mharc Pont-y-pŵl.

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 8am a 11.30am:

  • A4043 Cwmavon Road o gyffordd Prince Street a New William Street ym Mlaenafon i Old Road yn Abersychan
  • Old Road
  • Limekiln Road
  • Freeholdland Road
  • George Street
  • Mill Road
  • Hospital Road
  • Rhan ogleddol Osbourne Road i’r gyffordd â Riverside
  • Riverside
  • Park Road yn arwain i fyny i Penygarn Road

Mae'r trefnwyr wedi dewis llwybr a fydd yn caniatáu i draffig deithio rhwng Blaenafon a Phont-y-pŵl. Ni fydd ffyrdd ymyl ar gau'n ffurfiol ond ni chaniateir i unrhyw gerbydau fynd ar hyd y llwybr yn ystod y ras.

Os yw cau’r ffyrdd yn effeithio ar allu unrhyw un i deithio neu i gyflawni eu dyletswyddau gofal, dylent gysylltu ag Adran Datblygu Chwaraeon Torfaen ar 01633 628936 neu e-bostio ben.jeffries@torfaen.gov.uk cyn gynted ag y medrant, fel y gellir gwneud trefniadau i reoli traffig ar y dydd.

Mae'r holl wasanaethau brys a darparwyr gofal lleol wedi'u hysbysu ac mae trefniadau ar waith i ganiatáu i gerbydau brys a gofalwyr â chardiau adnabod groesi'r ffyrdd yn ddi-oed, os bydd angen iddynt fynychu digwyddiad neu ymweld â chleient.

Dywedodd Ben Jeffries, trefnydd y digwyddiad a Swyddog yn Adran Datblygu Chwaraeon Torfaen:

“Ymddiheurwn ymlaen llaw i unrhyw un sy’n wynebu unrhyw anghyfleustra yn sgil cau’r ffyrdd, ond gobeithiwn y bydd y rhybudd ymlaen llaw yn caniatáu i drigolion wneud trefniadau eraill yn ystod y cyfnod byr y bydd y ffyrdd ar gau. Bydd gwybodaeth hefyd yn cael ei phostio i drigolion sy’n byw ar y ffyrdd fydd ar gau. Mi fyddwn, wrth gwrs, yn ymdrechu i agor pob rhan o’r llwybr cyn gynted ag y medrwn.”

“Eleni, mae’r ras yn dathlu degawd ac mi fydd yn wych i weld pawb yn dychwelyd, yn mwynhau eu hunain ac yn cystadlu yn yr awyr agored unwaith eto ar ôl dwy flynedd anodd i bawb.”

I gael gwybodaeth am y digwyddiad ewch i wefan Torfaen. Os oes gennych ymholiadau’n ymwneud â noddi, neu os hoffech wirfoddoli ar y dydd i sicrhau lle am ddim yn y digwyddiad y flwyddyn nesaf, rhowch alwad ar 01633 628936 neu anfonwch e-bost at: ben.jeffries@torfaen.gov.uk  

Diwygiwyd Diwethaf: 04/07/2022 Nôl i’r Brig