I Dadau, Gan Dadau

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 6 Ionawr 2022

Mae rhaglen gefnogaeth newydd a chyffrous ar fin cael ei lansio yn Nhorfaen y mis yma.

Mae I Dadau, Gan Dadau yn rhaglen gefnogaeth 11 wythnos sy’n ceisio helpu tadau newydd a thadau sy’n disgwyl, tadau â phlant hyd at 18 mis oed.

Bydd yn cynnwys gweithdai wythnosol a sgyrsiau yn cynnwys amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys:

  • Iechyd a Lles
  • Deiet a Maeth
  • Gwybodaeth am fydwragedd ac ymwelwyr iechyd
  • Seicoleg
  • Gamblo a gemau

Mae’r rhaglen, trwy dîm Datblygiad Chwaraeon Torfaen, wedi ei chynllunio ar ôl ymchwil gan nifer o sefydliadau, gan gynnwys Fathers Outreach, Tidy Butt, Gwent Psychology, Recoveries 4 All a Newport County in the Community.

Gwelon nhw fod dynion yn elwa o gael man diogel ble gallan nhw ofyn cwestiynau a dysgu amdanyn nhw eu hunain wrth iddyn nhw ddechrau ar eu taith o fod yn dadau. Bydd y grwpiau’n eu helpu i baratoi ar gyfer y newid a ddaw gyda phlentyn.

Dywedodd Datblygiad Chwaraeon Torfaen, Jacob Guy, a fydd yn ymwneud â'r rhaglen: “Rydym yn gwybod bod cryn dipyn o gefnogaeth yno i rieni neu famau, ond dim llawer ar gyfer tadau yn unig.

"Gyda chyfraddau hunanladdiad ymhlith dynion yn uchel. Mae’n bwysig bod tadau’n gallu dod at grŵp ble gallan nhw ofyn cwestiynau a dysgu.“

Ar ôl cwblhau’r rhaglen, bydd tadau’n cael cyfle i ymuno â grwpiau cymunedol, timau a fforymau lleol sy’n addas ar gyfer eu hanghenion.

Bydd I Dadau, Gan Dadau yn dechrau ar ddydd Iau, 20 Ionawr yng Nghanolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl, o 7pm tan 9pm.

Bydd mwyafswm o 30 o leoedd yn y rhaglen.

Cwblhewch ein ffurflen i sicrhau eich lle

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 07980682256 neu danfonwch e-bost at Jacob.guy@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 18/01/2022 Nôl i’r Brig