Ffurfio rhwydwaith llysgenhadon hinsawdd

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 27 Ionawr 2022

Mae cynlluniau ar gyfer rhwydwaith cyntaf llysgenhadon yr amgylchedd yn Nhorfaen yn dechrau ffurfio.

Daeth tri ar ddeg o bobl â diddordeb mewn bod yn llysgenhadon cymunedol i gyfarfod â chynrychiolwyr o Gyngor Torfaen yr wythnos yma i drafod bydd ddylai fod yn rhan o’r rolau a sut all y rhwydwaith gael ei ddatblygu.

Cytunwyd y dylai’r rolau gynnwys canolbwyntio ar addysg, annog newid mewn ymddygiad a dathlu enghreifftiau o weithredoedd cadarnhaol, yn ogystal â nodi heriau a chydweithio i gael hyd i atebion arloesol i helpu’n cymuned.

Cytunwyd hefyd fod angen datblygu hwb ar-lein canolog fel y gall trigolion ddysgu mwy am y rhwydwaith, cysylltu â llysgenhadon, rhannu arfer gorau, cael adnoddau a chanfod sut i gymryd rhan.

Dywedodd Rhiannon Munroe, o ???, sydd â diddordeb mewn sut all llysgenhadon ysbrydoli newid ymddygiad: "Mae’n bwysig fod hyn yn arwain at newid trawsnewidiol yn Nhorfaen. Mae addysg yn bwysig ond mae angen troi hynny’n weithredoedd."

Dywedodd yr Athro John Hunt, gwyddonydd newid yn yr hinsawdd a daearegwr o Flaenafon: "Rwy’n teimlo’n gryf iawn bod angen i addysg ddigwydd trwy ddysgu gweithredol, yn hytrach na rhannu gwybodaeth, fel cofnodi milltiroedd teithio llesol ar fesurydd.

"Mae’r buddugoliaethau gorau yn dod trwy rannu llwyddiant yn hytrach na chanolbwyntio’n unig ar yr hyn sydd angen ei wneud."

Cafwyd cyflwyniad hefyd yn y cyfarfod am rai o’r camau i leihau carbon sy’n cael eu cymryd yn un o adeiladu’r cyngor fel enghraifft o’r hyn sy’n gallu cael ei wneud.

Dywedodd rheolwr ynni a lleihau carbon Cyngor Torfaen Gren Ham: "Rydym yn buddsoddi mewn pwyntiau gwefru trydan ar safle Tŷ Blaen i geir a lorïau ac uwchraddio’r cysylltiad i’r grid i’n galluogi i ddefnyddio a storio trydan solar. Ond rydym hefyd yn ystyried sut allem ni ddefnyddio hydrogen a biodanwydd yn y tymor hirach.

"Mae’n ymwneud â chymryd camau nawr yn ogystal ag edrych at dechnolegau’r dyfodol ac weithiau oedi newid i’n galluogi i elwa o’r camau hynny yn y tymor hirach."

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen, a gadeiriodd y cyfarfod: "Rwy’ am ddiolch i bawb sydd wedi dangos diddordeb mewn bod yn llysgennad hinsawdd Torfaen. 

"Mae yna gymaint o bobl yn ein cymunedau gyda’r wybodaeth, y sgiliau a’r angerdd i ysbrydoli newid cynaliadwy ac rwy’n credu bydd y rhwydwaith yma’n allweddol wrth helpu Torfaen i fod yn sero carbon net erbyn 2050."

Bydd rhwydwaith nesaf y llysgenhadon hinsawdd yn cael ei gynnal ym Mawrth a’r pwnc fydd teithio llesol.  I gymryd rhan yn y cyfarfod, neu i ymuno â’r rhwydwaith llysgenhadon, danfonwch e-bost at cath.cleaves@torfaen.gov.uk

*Os oes gennych chi ddiddordeb mewn teithio llesol, cliciwch yma i gymryd rhan yn ein hymgynghoriad ynglŷn â gwneud Cwmbran Drive yn fwy diogel i gerddwyr a seiclwyr.

Diwygiwyd Diwethaf: 16/06/2023 Nôl i’r Brig