Astudiaeth Gwella Teithio Llesol Cwmbrân Drive - dweud eich dweud

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 26 Ionawr 2022

Fel rhan o waith y Cyngor ar Deithio Llesol, rydym am ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i gerddwyr a beicwyr groesi Cwmbrân Drive ger pedair o’r cylchfannau prysuraf, ac rydym angen eich barn ar y potensial i greu croesfannau newydd. 

Pwrpas y rownd gyntaf hon o’r ymgynghoriad cyhoeddus yw clywed eich barn am y rhestr hir o opsiynau er mwyn deall y mathau o welliant yr hoffech eu gweld ger y cylchfannau hyn. Bydd safbwyntiau'n cael eu hystyried wrth ddatblygu opsiynau ar gyfer gwerthusiad pellach yn nes ymlaen.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae teithio llesol yn flaenoriaeth allweddol i Gyngor Torfaen, a dyna pam rydym yn awyddus i gynifer o bobl â phosibl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn. Nid ymgynghoriad ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn unig mohono, mae’n bwysig bod pobl eraill fel gyrwyr a theithwyr ar fysiau hefyd yn cymryd rhan.

“Mae teithio llesol o fudd i iechyd pobl a’r amgylchedd ond rydym yn sylweddoli bod angen rhai newidiadau i’n seilwaith. Un yn unig o nifer o brosiectau y mae Cyngor Torfaen yn gweithio arnynt yw hwn, i ddatblygu llwybrau cerdded a beicio diogel ar draws y fwrdeistref.”

Mae teithio llesol yn cyfeirio at feicio neu gerdded ar gyfer teithiau bob dydd gan gynnwys mynd yn ôl ac ymlaen i’r ysgol, gwaith, siopau, gwasanaethau iechyd a hamdden.

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cliciwch yma https://getinvolved.torfaen.gov.uk

Gofyn am gopi papur dros y ffôn ar: 01495 742861

Gofyn am gopi papur drwy ebost yn: donna.edwards-john@torfaen.gov.uk  

Arbed postio a sganio ac ebostio eich copi papur i: donna.edwards-john@torfaen.gov.uk  

Y dyddiad cau yw dydd Mercher 23 Chwefror

I gael mwy o wybodaeth am deithio llesol yn Nhorfaen, ewch i www.torfaen.gov.uk/cy/LeisureParksEvents/WalkingCycling/Walking-and-Cycling.aspx

Diwygiwyd Diwethaf: 16/06/2023 Nôl i’r Brig