Gwent yn paratoi ar gyfer Natur Wyllt 2022

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 21 Ionawr 2022

Yn dilyn cynlluniau peilot llwyddiannus ar reoli glaswelltir ar draws awdurdodau lleol Gwent, caiff dull gweithredu Natur Wyllt o reoli ei gydlynu eleni i gynnwys ardaloedd ehangach ar draws Gwent, gyda’r genhadaeth o’i wneud yn ‘gyfeillgar i beillwyr’ drwy alluogi mwy o flodau gwyllt i dyfu yn ein gofodau gwyrdd.

Bydd y prosiect, a gyflwynir fel rhan o Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, yn cysylltu gyda chymunedau lleol ar draws De Ddwyrain Cymru, gan godi ymwybyddiaeth o ddirywiad peillwyr ac annog perchnogaeth a grymuso cymunedol i gyflenwi camau gweithredu fydd yn eu helpu i adfer.

Bydd Natur Wyllt yn sefydlu dull gweithredu cydlynol at reoli gofodau gwyrdd, a gaiff hefyd ei alw yn Seilwaith Gwyrdd, i greu cynefinoedd peillwyr cyfoethog mewn blodau gwyllt ar draws 5 ardal awdurdod lleol (Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen). Caiff Cod Gweithredu a rhaglen hyfforddiant ei gyflwyno, gan gefnogi rheolaeth peillwyr effeithlon o fewn y rhanbarth.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ddatblygu Polisïau Peillwyr ar gyfer awdurdodau lleol a sefydliadau perthnasol eraill i sicrhau gwelliant tir graddfa fawr ar gyfer peillwyr, gan greu rhwydweithiau ecolegol gwydn.

Mae gweithgareddau a digwyddiadau ar y gweill ar gyfer 2022 i hyrwyddo rheoli blodau gwyllt a peillwyr, felly cadwch olwg am ddiweddariadau pellach ar y wefan neu ein dilyn ar Twitter@Natureisntneat a @Gwentgreengrid i gael yr holl newyddion diweddaraf.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, aelod cabinet Cyngor Torfaen dros yr amgylchedd: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu adeiladu ar y cynnydd ym mhob un o’r awdurdodau lleol i wella bioamrywiaeth glaswelltiroedd, gan gynnwys ymdrechion gwych gan ein Timau Strydlun Gweithredol, i roi tro ar drefniadau rheolaeth amgen ledled Torfaen i gefnogi peillwyr.  Mae peillwyr yn rhan hanfodol o ecosystemau; mae angen paill o flodyn arall ar y rhan fwyaf o blanhigion er mwyn cwblhau cylch bywyd a chynhyrchu ffrwythau a hadau yr ydym yn dibynnu arnyn nhw yn ein cyflenwad bwyd.

Mae gwenyn, gloÿnnod byw a llawer mwy o bryfed yn peillio 88% o blanhigion gwyllt a 75% o rywogaethau cnydau byd-eang.  Serch hynny, mae peillwyr o dan fygythiad.  Ers yr 1980au, mae hanner y rhywogaethau peillio wedi mynd yn llai cyffredin ar led ac mae poblogaethau gwenyn a phryfed hofran wedi dirywio 30% yn eu niferoedd. Er bod peth gwelliannau wedi bod, diolch i newidiadau fel ein polisi lladd gwair dewisol, mae yna waith i’w wneud o hyd ac mae yna nifer o gyfleoedd eleni i wneud gwahaniaeth.”

Mae gan Went nifer o rywogaethau o beillwyr sydd mewn perygl, gan gynnwys y Gardwenynen Feinlais prin iawn.

Mae newidiadau i helpu cadw rhywogaethau blodau yn fyw am fwy o amser nid yn unig yn darparu bwyd a chynefinoedd ar gyfer y peillwyr a rhywogaethau eraill, ond hefyd yn cynnwys amsugno dŵr, yn dal a storio carbon ac yn gwella iechyd y pridd. Mae ymchwil yn awgrymu fod creu amgylcheddau sy’n cynnig ystod ehangach o fywyd gwyllt o fudd i iechyd a llesiant meddwl pobl, gan eu hannog i arafu a mwynhau edrych ar flodau, pryfed a bywyd gwyllt arall.

Mae’r prosiect yn rhan o gyfres o raglenni a gyflwynir dan Brosiect Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, a gefnogir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig a chaiff ei gyllido gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru.

Mwy o wybodaeth am Grid Gwyrdd Gwent

Diwygiwyd Diwethaf: 21/01/2022 Nôl i’r Brig