Atgofion o Broad Street yn dod yn fyw

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 13 Ionawr 2022

Mae atgofion o Broad Street ym Mlaenafon wedi eu dal mewn tapestri ac arddangosfa sain newydd.

Mae dau dapestri 18 troedfedd o hyd yn dangos dwy ochr Broad Street wedi eu cymryd o atgofion pobl leol, gan gynnwys siopau nad ydynt yno mwyach. O fewn y tapestri mae nifer o recordiau sy’n caniatáu i ymwelwyr wrando ar yr atgofion sydd wedi eu cynnwys yn y tapestri.

Datblygwyd yr arddangosfa, yng Nghanolfan Dreftadaeth y Byd Blaenafon, a’i chyflwyno gan y mudiad celfyddydau cymunedol lleol Head4Arts, gan weithio gyda Penny Turnbull, artist tecstilau o’r Fenni, a Natasha James, arbenigwr digidol o Ferthyr Tudful.

Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol ar gyfer Sgiliau, yr Economi ac Adfywio: “Mae wirioneddol yn hynod beth ellir ei gyflawni pan ddaw grwpiau ac unigolion at ei gilydd i ystyried sut mae ein cymunedau wedi newid dros amser, i gofio rannu atgofion am Broad Street. Rwy’n siŵr y bydd yr atgofion yn y tapestri a’r recordiau sain yn ddifyr dros ben ac yn ddarn gwirioneddol o hanes byw. Ni allaf aros i’w gweld.

“Hoffwn ddiolch i bawb sy’n cymryd rhan yn y Bartneriaeth Rhaglen Treftadaeth Treflun sy’n sicrhau bod prosiectau fel hyn yn cael eu gwireddu. Mae Blaenafon yn lle hynod, llawn hanes.”

Dywedodd Gareth Davies, Cadeirydd Partneriaeth Rhaglen Treftadaeth Treflun Blaenafon: “Fel Cadeirydd Bwrdd y Rhaglen, rwyf wrth fy modd bod y rhaglen a’i phartneriaid wedi canfod ffyrdd o weithio gyda chymuned Blaenafon drwy gyfyngiadau anodd Covid i greu tapestri gwych yn dangos eu hatgofion o Broad Street.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y tapestri yn cael ei arddangos a gwrando ar y recordiau o’u hatgofion. Bydd y prosiect hwn yn cadw atgofion yn fyw am lawer o flynyddoedd i ddod.”

Meddai’r Cynghorydd Janet Jones, Hyryddwr Treftadaeth y Byd Blaenafon: “Yn fy rôl fel Hyrwyddwr Treftadaeth y Byd Blaenafon, rwy’n gweld llawer o weithgareddau cymunedol yn digwydd i gefnogi rhannu gwybodaeth o’n Safle Treftadaeth y Byd hynod.

“Mae’r prosiect Treftadaeth Treflun hwn nid yn unig yn creu tapestri o Broad Street ond hefyd mae ganddo storïau ynddo sy’n dal atgofion personol pobl a fu’n siopa ar Broad Street dros y blynyddoedd.

“Mae’r prosiect cyfan yn dod â Broad Street yn fyw, Rwy’n siŵr y bydd y prosiect hwn yn fan cychwyn i lawer mwy o atgofion a fydd yn dod i deuluoedd a ffrindiau.”

Dywedodd Kate Strudwick, Head 4 Arts: “Mae hwn wedi bod yn brosiect cyffrous iawn i ni, yn olrhain hanes cymdeithasol Broad Street drwy brofiadau pobl o siopa yno. Mae llwyddiant y prosiect yn ddyledus i’r bobl hynod rydym wedi eu cyfarfod gyda’u cyfoeth o straeon yn cipio ysbryd y stryd enwog hon.

“Mae hwn wedi bod yn gipolwg difyr dros ben, a weithiau doniol iawn, i’r gorffennol ac rwy’n gweld y stryd yn wahanol iawn nawr. Mae’r arddangosfa a gynhyrchwyd yn wirioneddol hynod a bydd llawer yn ei mwynhau at y dyfodol.”

Bydd yr arddangosfa ar gael yng Nghanolfan Dreftadaeth y Byd Blaenafon o ddydd Mawrth 18 hyd at ddydd Sul 23 Ionawr rhwng 10am -5pm.

Mae Rhaglen Dreftadaeth Treflun Blaenafon (THP) yn cefnogi adfywio treftadaeth cymunedol ffisegol a chymunedol ym Mlaenafon gyda grantiau adeiladu wedi eu targedu, ar eiddo a adnabuwyd a mentrau cymunedol. Mae gweithgareddau cymunedol y rhaglen yn ein helpu i gysylltu gyda’r gymuned ledled Blaenafon er mwyn archwilio cysylltiadau personol pobl gyda’u treftadaeth, ac i ddathlu Statws Treftadaeth y Byd y dref.

Mae Partneriaeth Rhaglen Treftadaeth Treflun Blaenafon yn cael ei chyflenwi drwy gyfraniadau ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cyngor Tref Blaenafon, Cadw a pherchnogion eiddo preifat.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 13/01/2022 Nôl i’r Brig