Seren Bake-off yn rhannu ei daith faethu

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 4 Ionawr 2022
Jon Jenkins - Great British Bake Off finalist and foster carer

Mae terfynwr yn rhaglen Bake Off Sianel Pedwar Jon Jenkins wedi siarad am ddod yn ofalwr maeth i helpu i gefnogi ymgyrch newydd.

Mae Jon a’i deulu yn byw yng Nghasnewydd, a daethant yn ofalwyr maeth flwyddyn yn ôl. Maen nhw wedi siarad am y profiad mewn fideo newydd fel rhan o ymgyrch 'A Great Thing to Do in 2022' i annog mwy o bobl i roi cynnig ar faethu.

Meddai Jon: “Rydym wedi bod yn maethu nawr am ychydig lai na blwyddyn ac rydym wedi maethu un plentyn – daeth atom ar benwythnos argyfwng ac mae’n dal yma 10 mis yn ddiweddarach. Mae’n fachgen hyfryd ac mae wedi bod yn brofiad positif iawn i ni i gyd.

“Mae wastad yn rhyfedd pan fyddwch yn cychwyn ar rywbeth fel maethu achos nid ydych yn gwybod sut beth fydd o, ond mae wedi bod mor bositif i mi a ‘nheulu. Felly, rwy’n gobeithio y bydd y fideo yma yn ysbrydoli teuluoedd eraill i roi cynnig arni, oherwydd rydych yn cael llawer iawn allan ohono.”

Mae’r fideo ar y cyfryngau cymdeithasol wedi ei gynhyrchu gan yr holl wasanaethau maethu awdurdod lleol yng Ngwent, fel rhan o 'A Great Thing to Do in 2022'.

Mae’r fideos yn dangos Jon a’i deulu yn rhannu eu taith faethu, o’r ymholiad cyntaf trwodd i’r profiad i’w plant eu hunain – tra mae Jon yn pobi yn y gegin. 

Tybir bod angen recriwtio 550 o ofalwyr a theuluoedd maeth newydd yng Nghymru bob blwyddyn.

Ledled Gwent a Thorfaen mae pob plentyn sydd angen gofal maeth dan ofal eu hawdurdod lleol. Drwy helpu plant i aros yn eu cymuned leol lle bo modd, mae Torfaen yn gallu eu cadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau yn yr ysgol a chadw eu teimlad o bwy ydyn nhw, sydd nid yn unig yn meithrin hyder ond hefyd yn lleihau straen.

Nid yw dau blentyn yr un fath, ac nid yw’r gofal maeth maent ei angen yr un fath ‘chwaith. Boed yn berchen ar neu yn rhentu eich cartref, boed yn briod neu’n sengl, beth bynnag yw eich rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd neu ffydd, mae yna bobl ifanc sydd angen rhywun i’w cefnogi.  

Meddai’r Aelod Gweithredol ar gyfer Plant, Teuluoedd a Chymunedau, y Cynghorydd Fiona Cross: "Tra bo gan lawer ohonom deulu a ffrindiau yno i’n cefnogi yn ystod y cyfnodau caled a gafwyd yn y 18 mis diwethaf, mae llawer o blant a phobl ifanc ledled Cymru angen y cymorth hwnnw fwy nag erioed.

“Pam na wnewch hyn yn adduned ar gyfer eleni sy’n para oes, a dod yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru Torfaen".

Bydd Cyngor Torfaen yn rhannu cynnwys ar sianelu cyfryngau cymdeithasol drwy gydol mis Ionawr i helpu pobl i ddeall a gwerthfawrogi maethu a’r gwahaniaeth positif y gall ei wneud i fywydau pobl ifanc.

Os ydych yn credu y gallech chi wneud gwahaniaeth drwy ddod yn ofalwr maeth, ewch i: https://fosterwales.torfaen.gov.uk/

 

Diwygiwyd Diwethaf: 04/01/2022 Nôl i’r Brig