Llwybrau diogel at ysgol

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 4 Chwefror 2022

Bydd croesfan newydd yn cael ei gosod ar yr heol wrth ymyl ysgol gynradd yng Nghwmbrân fel rhan o fenter Llwybrau Mwy Diogel mewn Cymunedau.

Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun 7 Chwefror ar y groesfan twcan newydd ar Thornhill Road, yn agos at Ysgol Gynradd Woodlands ym Mryn Eithin.

Bwriedir i fwyafrif y gwaith ar y ffordd ddigwydd dros gyfnod o pedwar wythnos o gylch gwyliau hanner tymor. Yn ystod y gwyliau eu hunain, bydd yr heol ar gau i draffig yn ystod y diwrnod gwaith am wythnos tra bod y llwyfan dyrchafedig yn cael ei adeiladu, serch hynny mae’n bosibl fel arfer agor y ffordd i draffig pob nos ar ôl oriau gwaith. Mae hyn yn waith paratoi ar gyfer y goleuadau eu hunain a fydd yn cael eu gosod yn fuan wedyn a byddan nhw’n dechrau gweithio yn Ebrill.

Cymerwyd y penderfyniad i osod croesfan twcan - sy’n caniatáu i gerddwyr a seiclwyr groesi ar yr un pryd - ar ôl i’r swyddog croesi ymddeol ac nid oedd modd cael hyd i rywun newydd. Roedd cyfle i osod croesfan er budd y gymuned gyfan ac sydd ar gael 24/7, nid dim ond yn ystod oriau ysgol.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, aelod gweithredol dros yr amgylchedd: "Rydym am i’n heolydd fod yn ddiogel i gerddwyr a seiclwyr ledled y fwrdeistref er mwyn annog pobl i gerdded a seiclo mwy.

“Mae Ysgol Gynradd Woodlands yn un o nifer o ysgolion sy’n gorfod delio â thraffig trwm yn ystod amserau gollwng a chodi, felly rydym yn gobeithio y bydd y groesfan newydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i ddiogelwch ffyrdd.”

Mae menter Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn ceisio gwella hygyrchedd a diogelwch i gerddwyr a seiclwyr, yn arbennig yn agos i ysgolion.

I wybod mwy am ddiogelwch ar y ffordd yn y fwrdeistref, ewch i: https://www.torfaen.gov.uk/cy/RoadsTravelParking/RoadSafety/Road-Safety.aspx 

Cymerwch ran yn ein hymgynghoriad diweddaraf ar deithio llesol o gylch Astudiaeth Gwella Teithio Llesol Cwmbrân Drive yma: https://getinvolved.torfaen.gov.uk/neighbourhoods/c-d-a-t-i-s-cy/ 

Diwygiwyd Diwethaf: 21/10/2022 Nôl i’r Brig