Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 13 Rhagfyr 2022
Yr wythnos hon, lansiodd Heddlu Gwent eu menter DRIVE newydd gyda’r nod o adnabod pobl sy’n yfed a gyrru dros yr ŵyl.
Mae’r fenter DRIVE yn caniatáu i bobl adrodd yn ddienw am rywun maent yn amau eu bod yn yfed dan ddylanwad diod neu gyffuriau.
Mae'n syml i'w ddefnyddio – tecstiwch 'DRIVE' ac yna cymaint o fanylion â phosibl at 66777. Byddwn yn derbyn adroddiad ac yn gallu cymryd camau gweithredu priodol.
Cofiwch gynnwys cymaint o'r wybodaeth isod â phosibl:
• lleoliad
• amser
• gwneuthuriad a model y cerbyd
• enw'r gyrrwr
• plât rhif
Dywedodd Arolygydd Christine James: "Hoffem annog unrhyw un sy'n amau bod rhywun yn gyrru dan ddylanwad i ddefnyddio'r rhif yma a rhoi gwybod i ni.
"Mae'r gwasanaeth yn gwbl ddienw a gall unrhyw un ei ddefnyddio, o ddieithriaid i ffrindiau a theulu pryderus, er mwyn atal defnyddwyr eraill y ffyrdd rhag cael eu rhoi mewn perygl.
"Mae'n ffordd gyflym, hawdd, ac effeithiol i helpu i gadw ein ffyrdd yn ddiogel."
Dywedodd Uwch-arolygydd Mike Richards: "Er bod y rhan fwyaf o fodurwyr yn gyrru’n gyfreithlon, mae rhai pobl yn hunanol ac yn rhoi eraill mewn perygl trwy yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
"Mae ein swyddogion wedi gorfod mynd i leoliad llawer gormod o wrthdrawiadau traffig ffyrdd marwol dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi'u hachosi'n uniongyrchol gan bobl yn gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
"Mae'n annerbyniol ac ni fydd yn cael ei oddef.
"Rydyn ni'n gobeithio y bydd yr ymgyrch newydd, dienw hwn yn annog pobl i riportio’r rhai sy'n peryglu nid yn unig eu bywydau eu hunain, ond bywydau pobl eraill trwy yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau."
Sylwer: Rhaid i chi ddechrau eich neges gyda 'DRIVE' er mwyn i’r wybodaeth ein cyrraedd ni. Codir cyfradd rhwydwaith safonol i anfon negeseuon testun at y rhif hwn.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.
Deall y terfynau
Mae gyrru o dan y dylanwad yn hynod o beryglus a gall effeithio'n ddifrifol ar eich amseroedd ymateb.
Y terfyn alcohol cyfreithiol ar gyfer gyrru yng Nghymru a Lloegr yw 80 miligram o alcohol am bob 100 mililitr o waed - neu 35 microgram o alcohol fesul 100 mililitr o anadl.
Mae'n drosedd gyrru gydag unrhyw un o'r 17 cyffur rheoledig uwchben lefel benodedig yn eich gwaed - mae hyn yn cynnwys cyffuriau anghyfreithlon a rhai wedi’u rhagnodi yn gyfreithlon.
Y risg mwyaf rydych chi'n ei gymryd wrth yrru dan ddylanwad yw achosi gwrthdrawiad oherwydd mae alcohol a chyffuriau'n gallu effeithio ar eich gyrru mewn sawl ffordd. Er enghraifft.
• sgiliau ymateb a symud
• golwg aneglur neu amhariad ar y golwg
• syrthni
• ymddygiad ymosodol
• gorhyder
• ymddygiad eratig
Peidiwch â mynd tu ôl i'r llyw os ydych chi wedi bod yn yfed neu'n cymryd cyffuriau – ‘dyw e byth werth y risg.