Grant yn helpu i wireddu breuddwyd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 9 Rhagfyr 2022
Morgan Mates

Mae pencampwraig karate ifanc wedi dweud bod y cymorth a gafodd gan Ymddiriedolaeth Mic Morris Torfaen wedi bod yn offerynnol o ran ei helpu i wireddu ei breuddwyd.

Dechreuodd Morgan Mates, 14, o Gwmbrân, ddysgu Kyokushinkai Karate pan oedd ond yn bum mlwydd oed ac mae wedi cynrychioli Cymru nifer o weithiau.

Mae hi nawr bumed yn y byd yn ei chategori ar ôl cynrychioli Tîm GB ym Mhencampwriaethau Kata y Byd yn y Swistir fis Medi diwethaf.

Mae Morgan, sydd yn wregys brown, wedi derbyn £1000 drwy Ymddiriedolaeth Chwaraeon Mic Morris i helpu gyda chostau ffioedd mynediad, teithio, llety, gwisgoedd ac offer chwaraeon ac mae’n annog athletwyr ifanc eraill i wneud cais i’r gronfa. 

Meddai Morgan, sy’n hyfforddi yn Cwmbrân Kyokushinkai: “Rwy’n teimlo mor ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Mic Morris am yr help mae wedi ei roi i mi. Mae wedi fy ngalluogi i ddilyn fy mreuddwyd o gynrychioli fy ngwlad mewn cystadlaethau Karate rhyngwladol. Rwy’n falch o’u cynrychioli a’u gwaith yn cefnogi pobl ifanc mewn chwaraeon.

Hoffwn hefyd ddweud diolch arbennig i’m dojos yn Cwmbrân Kyokushinkai, oherwydd heb eu cefnogaeth nhw, ni fuaswn yn rhan o sgwad Cymru a Phrydain Fawr.”

Nesaf, mae Morgan yn anelu am Bencampwriaethau Ewropeaidd IFK yn Yerevan, Armenia yn 2023, ynghyd a gweithio i gael gwregys du yn y sbort.

I fod yn gymwys i wneud cais i Ymddiriedolaeth Mic Morris, rhaid i berson ifanc fod rhwng 11 – 21 oed ac yn byw yn Nhorfaen.

Mae’r gronfa yn ariannu nifer o chwaraeon, ond rhaid i’r ymgeisydd ddod o fewn un o’r pedwar categori canlynol:

  1. Perfformiwr dosbarth byd
  2. Elite Cymru
  3. Aelod o dîm neu sgwad cenedlaethol fel y pennir yn y rhestr a ddarperir gan Chwaraeon Cymru
  4. Yn y 5 uchaf ar gyfer Cymru a/neu’r 10 uchaf ar gyfer Prydain Fawr

Meddai Cadeirydd Ymddiriedolaeth Goffa Chwaraeon Mic Morris, Christine Vorres: “Rydym yn deall bod yr argyfwng costau byw yn effeithio llawer o deuluoedd, ac mae llawer ohonynt efallai yn anfon eu plant a phobl ifanc i ddigwyddiadau chwaraeon yn Nhorfaen.

“Hoffai’r ymddiriedolwyr hysbysu pobl, er bod angen i ymgeiswyr fodloni meini prawf penodol, bod yr Ymddiriedolaeth yn hapus i ddarparu cyllid ar gyfer eitemau fel ffioedd clwb, costau teithio, ffioedd hyfforddi, offer ac unrhyw beth arall sy’n gysylltiedig â’u sbort. Felly peidiwch ag ofni cysylltu â ni i ofyn am gymorth”.

I wneud cais i Ymddiriedolaeth Mic Morris ewch i wefan Torfaen  neu cysylltwch gyda Christine Philpott ar 01633 628936 neu ebostiwch Christine.philpott@torfaen.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer y rownd nesaf o geisiadau yw dydd Llun 9 Ionawr 2023.

Diwygiwyd Diwethaf: 09/12/2022 Nôl i’r Brig