Wedi ei bostio ar Dydd Iau 8 Rhagfyr 2022
Ni fydd y diwrnodau casglu yn newid yn ystod yr wythnos sy’n arwain at y Nadolig, serch hynny, ar ôl y Nadolig, bydd y casgliadau’n mynd rhagddynt diwrnod yn hwyrach na’r arfer.
Dyma’r dyddiadau:
Casgliadau gwastraff ac ailgylchu dros y Nadolig ar Flwyddyn Newydd
Dyddiad | Dyddiad casglu newydd |
Dydd Llun 26 Rhagfyr
|
Dydd Mawrth 27 Rhagfyr
|
Dydd Mawrth 27 Rhagfyr
|
Dydd Mercher 28 Rhagfyr
|
Dydd Mercher 28 Rhagfyr
|
Dydd Iau 29 Rhagfyr
|
Dydd Iau 29 Rhagfyr
|
Dydd Gwener 30 Rhagfyr
|
Dydd Gwener 30 Rhagfyr
|
Dydd Sadwrn 31 Rhagfyr
|
|
|
Dydd Llun 1 Ionawr 2023
|
Arferol
|
Gair i’ch atgoffa – mae angen gosod eich sbwriel ac ailgylchu allan cyn 6am ar eu diwrnodau casglu.
Bydd ein criwiau'n hynod o brysur dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd felly os fethir eich casgliadau gwastraff neu ailgylchu, gadewch nhw allan tan eu bod wedi cael eu gwagio.
Rydym yn gwerthfawrogi y bydd gwastraff ychwanegol yn cael ei gynhyrchu dros yr ŵyl, hyd yn oed ar ôl i drigolion ailgylchu cymaint ag y gallant. Felly, er mwyn helpu i reoli hyn, byddwn yn casglu hyd at ddau fag du ychwanegol o sbwriel o bob cartref pan fyddwn yn casglu’r biniau â chlawr porffor cyntaf yn unig, ar ôl y Nadolig. Gwnewch yn siŵr bod y bagiau'n cael eu gosod wrth ymyl y bin â chlawr phorffor.
Didolwch
Er mwyn helpu ein criwiau casglu, byddai'n ddefnyddiol pe bai trigolion yn didoli eu deunyddiau hailgylchu cymaint â phosibl. Mae hyn yn helpu i gyflymu casgliadau, gan na fydd rhaid i griwiau ddidoli ar y palmant.
Gwasgwch
Gall gwasgu eich deunyddiau ailgylchu helpu i greu lle yn eich biniau a’ch bocsys.
Craffwch
Ar gyfartaledd, gellir ailgylchu 70 y cant o wastraff sy'n cael ei roi mewn biniau tenau. I leihau swm y sbwriel sydd yn eich bin du, ailgylchwch unrhyw fwyd, gwydr, papur, plastig a thuniau.
Bydd Capital Valley Plastics yn dechrau casglu plastig ymestynnol o ysgolion unwaith eto yn y flwyddyn newydd, tan hynny gofynnwch yn eich archfarchnad leol i weld a allwch ei ailgylchu.
Rhowch gardiau Nadolig yn eich bag cardbord glas i'w ailgylchu. Yn anffodus, ni allwn ailgylchu papur lapio.
Os oes gennych goeden Nadolig go iawn, gallwch fynd â hi i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref unwaith y byddwch wedi rhoi’r gorau i’w defnyddio. Yno, gellir ei charpio a’i throi’n gompost.
Amserau agor Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGC)
Bydd CAGC ar agor:
Dydd Gwener 23 Rhagfyr – 10am – 4pm
Dydd Sadwrn 24 – 10am – 4pm
Dydd Sul 25 – Ar Gau
Dydd Llun 26 – Ar Gau
Dydd Mawrth 27 – 10am – 4pm
Dydd Mercher 28 – 10am – 4pm
Dydd Iau 29 – 10am – 4pm
Dydd Gwener 30 – 10am -4pm
Dydd Sadwrn 31 Ionawr 2023 – 10am – 4pm
Dydd Sul 01 Ionawr– Ar Gau
Dydd Llun 02 Ionawr – 10am – 4pm
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi didoli eich gwastraff ac ailgylchu cyn i chi gyrraedd, ac os oes gennych fan neu fusnes, gwnewch yn siŵr fod gennych drwydded fan diweddar.
Gallwch gyfrannu eitemau o ansawdd da i siop ailddefnydd The Steelhouse, sydd ger CAGC. Dyma’r amserau agor:
Dydd Gwener 23 Rhagfyr – 9am – 4.30pm
Dydd Sadwrn 24 – 9am – 4.30pm
Dydd Sul 25 – Ar Gau
Dydd Llun 26 – Ar Gau
Dydd Mawrth 27 – 9am – 4.30pm
Dydd Mercher 28 – 9am – 4.30pm
Dydd Iau 29 – 9am – 4.30pm
Dydd Gwener 30 – 9am – 4.30pm
Dydd Sadwrn 31 Ionawr 2023 – 9am – 4.30
Dydd Sul 01 Ionawr – Ar Gau
Dydd Llun 02 Ionawr – 9am-4.30pm
Y Caffi Trwsio
Bydd y Caffi Trwsio sydd wedi ei leoli ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl ar gau ddydd Mercher 28 a dydd Iau 29 Rhagfyr.