Llwyddiant TGAU Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Nhorfaen

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 25 Awst 2022
Eleanor and Lisa collecting their GCSE results

Nid disgyblion ysgol yw'r unig rai sy'n cael eu canlyniadau TGAU heddiw. Mae oedolion sy'n dysgu yn Nhorfaen hefyd yn darganfod a wnaethon nhw daro'r nod.

Eleni, fe wnaeth 36 oedolyn sefyll TGAU Saesneg a Mathemateg drwy wasanaeth dysgu oedolion y Cyngor gyda 77% yn cael graddau A* i C mewn Saesneg a Mathemateg.

Mae'r cyrsiau'n rhoi cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol i bobl i helpu i gynyddu eu rhagolygon am swyddi, i wneud cynnydd yn y gwaith neu gael mynediad at astudiaeth bellach, a byddant yn helpu i wella sgiliau ar gyfer bywyd bob dydd.

Mae cyrsiau achrededig hefyd ar gael mewn  Sgiliau Hanfodol yn Saesneg a Mathemateg o ddechreuwyr hyd at lefel 2. Nod y cyrsiau yw meithrin hyder dysgwyr i'w paratoi ar gyfer TGAU.

Meddai Joanne Gauden, yr Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae'r canlyniadau eleni yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein dysgwyr sy'n oedolion a'n tiwtoriaid yn y Gwasanaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned. Rydym mor falch o'n dysgwyr yn dathlu eu llwyddiannau anhygoel heddiw. Mae hyn, nid yn unig yn dystiolaeth o'u hymrwymiad i lwyddo, ond mae hefyd yn adlewyrchu'r addysgu a'r dysgu o ansawdd uchel sy'n digwydd yn ein 3 lleoliad addysg i oedolion.  Gall ein tiwtoriaid helpu pobl i ganfod eu man cychwyn a helpu i ddewis y cwrs gorau iddyn nhw."

I gael mwy o wybodaeth am yr ystod eang o gyrsiau sydd ar gael, cysylltwch ar 01633 647647 neu ewch i wefan y cyngor a chwilio am ddysgu oedolion yn y gymuned.

Diwygiwyd Diwethaf: 25/08/2022 Nôl i’r Brig