Ail ddigwyddiad Siop Ysgol Gynnil yn llwyddiant

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 18 Awst 2022

Roedd yr ail Siop Ysgol Gynnil a gynhaliwyd ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl ddoe yn llwyddiant – roedd pobl yn cyrraedd yn gynnar er mwyn dod i mewn!

Cyfrannwyd 842 anferth o eitemau yn amrywio o esgidiau ysgol i grysau, a gadawodd llawer gyda’r eitemau roeddynt yn chwilio amdanynt. 

"Hollol wych" a "Fedra i ddim credu ei fod am ddim" oedd rhai o’r sylwadau gan gwsmeriaid hapus.

Hoffai’r Cyngor ddiolch i bawb a gyfrannodd eitemau ar gyfer y digwyddiad, i bawb a ddaeth draw, ac i’n holl bartneriaid a helpodd i wneud y digwyddiad yma’n llwyddiant. Mae hyn yn cynnwys pwyntiau casglu a Trac2 a ddidolodd, glanhau a pharatoi’r holl eitemau hefyd.

Os ydych yn poeni am gostau byw, ewch draw i’n gwefan i gael gwybodaeth ddefnyddiol

Os na chawsoch y cyfle i fynychu unrhyw un o’n Siopau Ysgol Cynnil, ac os ydych eisiau cymorth gyda chostau gwisg ysgol, efallai eich bod yn gymwys i dderbyn Grant Datblygu Disgyblion Llywodraeth Cymru. Edrychwch yma i weld os ydych yn gymwys, ac i wneud cais

Diwygiwyd Diwethaf: 18/08/2022 Nôl i’r Brig