Mae amser o hyd i gymryd rhan yn arolwg Natur Wyllt

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 15 Awst 2022

Ers ei lansio yr haf hwn, mae Arolwg ar lein Natur Wyllt wedi derbyn dros 1,000 o ymatebion o bob cwr o Dorfaen ac ardaloed ehangach Gwent.

Mae'r arolwg, sy'n cau ar 30 Medi, wedi'i gynllunio i glywed barn trigolion ar ddull Natur Wyllt, sy'n hyrwyddo gadael glaswelltir mewn parciau ac ar hyd ymylon ffyrdd i dyfu yn y gwanwyn a'r haf i greu ardaloedd o ddolydd a lle i fyd natur. Bydd yr adborth a gafwyd yn helpu i lywio rheoli mannau gwyrdd yn y dyfodol.

Dywedodd Andrew Osborne, Arweinydd Grŵp, yr Economi, Amgylchedd a Diwylliant: “Diolch yn fawr iawn i bawb sydd eisoes wedi  rhoi o’u hamser i gwblhau’r arolwg Natur Wyllt, ac am adael i ni wybod eich syniadau ynglŷn â’r ffordd yr ydych yn hoffi i ni reoli eich mannau gwyrdd, a, rhannu eich teimladau am fyd natur.”

Ethos Natur Wyllt yw y dylid caniatáu i laswelltir ym mannau gwyrdd Gwent dyfu a ffynnu gyda blodau gwyllt, gan ddarparu bwyd a chynefin i'n pryfed peillio. Mae hefyd yn ymwneud â dod o hyd i gydbwysedd rhwng natur a hamdden drwy gydol y flwyddyn. Mae Cyngor Torfaen yn asesu pa mor dda maen nhw'n rheoli mannau gwyrdd ar gyfer natur ac i drigolion yn barhaus. Bydd yr arolwg yn parhau tan yr hydref felly mae digon o gyfle i roi adborth trwy gwblhau'r arolwg ar www.monlife.co.uk/outdoor/nature-isnt-neat/complete-our-survey/

Wrth i ddiwedd yr haf agosáu, mae llawer o blanhigion wedi gorffen blodeuo ac yn dechrau mynd i had, gan adael i ddolydd edrych yn fwy glaswelltog. Er efallai nad ydynt mor lliwgar, maent yn dal i fod yn llawn sioncod y gwair, gwyfynod a gloÿnnod byw sy'n byw ac yn bwydo yn y glaswellt. Mae'n hanfodol bod blodau gwyllt a gweiriau'r ddôl yn gallu cynhyrchu a gwasgaru hadau cyn cael eu torri, er mwyn i ni gael mwy o flodau y flwyddyn nesaf. Ar ddiwedd y tymor, bydd timau trin tir y cyngor yn cychwyn eu cyfundrefnau torri gwair ar draws safleoedd, drwy dorri a chasglu ee fel dolydd traddodiadol maen nhw'n cael gwared ar faetholion ac yn lleihau'r gallu i laswellt drechu y flwyddyn nesaf gan annog rhagor o gynefinoedd bioamrywiol.

I gael mwy o wybodaeth ewch i: https://www.monlife.co.uk/outdoor/nature-isnt-neat/

Cefnogir y prosiect gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig:  

Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig a chaiff ei ariannu gan grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru. 

 

 

Diwygiwyd Diwethaf: 15/08/2022 Nôl i’r Brig