I Dadau, gan Dadau

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 11 Awst 2022
For Dads By Dads

Gall tadau newydd a rhai sy’n disgwyl yn Nhorfaen gofrestru ar gyfer rhaglen newydd gyda’r nod o gefnogi tadau ar eu taith newydd o fod yn rhiant.

Mae’r rhaglen 10 wythnos I Dadau, Gan Dadau yn trafod amrywiaeth o bynciau megis cymorth cyntaf i blant, iechyd a lles a maethiad.

Mae’r sesiynau yn cynnwys siaradwyr gwadd o amrywiol sefydliadau, gyda rhai yn cynnwys Tidy Butt – gyda chenhadaeth o newid y stigma o gwmpas iechyd meddwl, Recoveries 4all – sy’n addysgu pobl ar gamblo a hapchwarae a Fat Daddy Fitness – gwasanaeth hyfforddiant bywyd mewn maethiad ac ymarfer.

Mae sesiynau hefyd gan Seicoleg Gwent, Dechrau’n Deg Torfaen a Theuluoedd yn Gyntaf.

Yn gynharach eleni, cymerodd naw o dadau lleol ran yn y peilot I Dadau, Gan Dadau ac mae eu hadborth nhw wedi helpu i lunio’r rhaglen nesaf, sy’n dechrau mis nesaf.

Meddai Nicholas, o Bont-y-pŵl: “Roedd yn wych cyfarfod tadau eraill sydd mewn amgylchiadau gwahanol i mi ond a oedd, mewn rhyw ffordd, yn mynd drwy’r un peth.

“Mae’n rhywle lle gallwch ddweud beth rydych angen ei ddweud a pheidio â chael eich barnu. Dyna oedd y peth mwyaf i mi, dyna oedd yn ei wneud yn lle gydag awyrgylch da – dim beirniadu gan neb.

“Dysgais lawer am faethiad a’r gefnogaeth sydd yna i dadau. Nawr, mae gen i’r egni i chwarae gyda fy mhlentyn ar ôl diwrnod caled o waith. Rwyf nawr yn hyderus y gallaf fod y tad rwyf eisiau ei fod.”

Swyddog Datblygu Chwaraeon Torfaen, meddai Jacob Guy: “Rhoddodd y prosiect peilot y dystiolaeth a oedd ei hangen arnom i gefnogi tadau ar y rhaglen nesaf ac mae wedi ein galluogi i dreialu gwahanol weithdai a rhaglenni y tro yma.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r grŵp newydd o dadau mis Medi yma a rhedeg y rhaglen yn llawn nawr bod cyfyngiadau Covid-19 wedi codi. Rydym y teimlo bod rhoi’r wybodaeth i dadau fod y tadau gorau y gallent fod yn fanteisiol iddyn nhw, ond hefyd yn galluogi gwell perthynas gyda’r teulu at y dyfodol.”

“Rydym hefyd yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen i drefnu bod tadau ar y rhaglen yn cael tocyn campfa ac ystafell ffitrwydd am ddim i’w ddefnyddio yn eu canolfannau.”

Mae’r rhaglen I Dadau, Gan Dadau yn cychwyn ar ddydd Iau 8 Medi, 7pm hyd at 9pm yng Nghanolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl gyda siaradwyr gwadd Mark Williams, o Fathers Outreach – sy’n cynnig cymorth a gwybodaeth i helpu tadau newydd, a Gareth Wall, Swyddog Cymorth Teuluol Blynyddoedd Cynnar Cyngor Torfaen. 

Gallwch gofrestru yma neu gysylltu gyda Jacob Guy ar 07980682256 neu ebostio ar Jacob.guy@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 12/08/2022 Nôl i’r Brig