Gwau'r ffordd at lwyddiant

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 10 Awst 2022

Mae un o stondinwyr Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl, Tania Britten o The Craft Cabin, wedi cael ei henwebu ar gyfer Gwobrau Gwau a Chrosio Prydain 2022, yn y categori Siop Annibynnol Ranbarthol Orau.

Wedi ei henwebu gan gylchgrawn Let’s Knit, mae’r anrhydedd yma’n dyst i’w hymroddiad a’i gwaith caled ers iddi gymryd y stondin yn Nhachwedd 2020.

Mae Tania wedi parhau â hanes hir gwau cymunedol gyda’r grŵp lleol, The Craft Cabin Chatter, sy’n cwrdd ar ddydd Iau rhwng 5pm – 7pm, ac ar fore Sadwrn o 10am -12.30pm.

Mae The Craft Cabin wedi bod yn y farchnad ers dros 50 o flynyddoedd ac mae’r perchennog presennol, Tania, wrth ei bodd o gael ei henwebu ar gyfer y wobr fawreddog yma eleni.

I helpu Tania i ennill gwobr Siop Annibynnol Ranbarthol Orau, mae angen eich pleidlais arni. I bleidleisio, cliciwch ar y ddolen ac ewch at dudalen 25, yna cwblhewch eich manylion a chyflwynwch y ffurflen. Pleidleisiwch yma

Y dyddiad cau ar gyfer pleidleisio yw dydd Gwener, 30 Medi, a bydd enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar ddydd Mercher 17 Tachwedd.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 11/08/2022 Nôl i’r Brig