Grantiau i drawsnewid adeiladau gwag yng nghanol trefi

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 9 Awst 2022

Gall busnesau yng nghanol trefi Pont-y-pŵl, Blaenafon a Chwmbrân gofrestru diddordeb mewn arian i helpu i adfywio adeiladau gwag neu sy’n cael eu tanddefnyddio.

Bydd Cronfa Creu Lle Canol Trefi Torfaen Town Centre, a ariennir gan Raglen Trawsnewid Trefi Lywodraeth Cymru, yn cefnogi gwelliannau i adeiladau busnes neu breswyl sy’n wag neu sy’n cael eu tanddefnyddio.

Gallai grantiau o hyd at £250K fod ar gael, yn amodol ar gymhwyster, trwy’r Gronfa Creu Lle. Mae angen i fusnesau newydd a chyfredol yn y trefi sydd â diddordeb mewn gwneud cais am yr arian, gyflwyno ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb erbyn 19Awst 2022 ar gyfer cynlluniau sy’n barod i’w cyflenwi o Ebrill 2023 ymlaen

Diwygiwyd Diwethaf: 05/10/2022 Nôl i’r Brig