Wedi ei bostio ar Dydd Llun 25 Ebrill 2022
Mynychodd mwy na 450 o blant Wersylloedd Chwarae a Llesiant Torfaen ledled y fwrdeistref dros wyliau’r Pasg eleni.
Cyflwynwyd sesiynau chwarae a seibiant hefyd i fwy nag 80 o blant ag anableddau.
Yn cael eu rhedeg gan Wasanaeth Chwarae Torfaen, roedd y plant yn gallu cymryd rhan mewn wythnos llawn gweithgaredd, gemau, chwaraeon a sioeau talent.
Gweithiodd rhyw 110 o weithwyr chwarae a gwirfoddolwyr gyda’i gilydd i gynnig amrywiaeth o weithgareddau chwarae yn y gwersylloedd, gan gynnwys celfyddydau a chrefftau, helfa wyau a’r ffefryn clir, adeiladu Lego.
Meddai’r pennaeth yn Ysgol Gynradd Garnteg, Susan Roche: “Mae wythnos gwersyll y Pasg wedi bod yn wych!! Cafwyd nifer o gyfleoedd i blant fod yn egnïol, dysgu, creu a thyfu gyda’i ffrindiau.
“Mae’r staff a’r gwirfoddolwyr gwych wedi darparu ystod eang o weithgareddau i’r plant, o weithgareddau crefft y Pasg i gerddoriaeth, symud a hyd yn oed yoga. Mae’r plant yn Nhorfaen wir wedi elwa o’r profiadau ac mae ‘r nifer uchel o blant yn mynychu bob dydd wedi dangos llwyddiant ein staff a’n gwirfoddolwyr chwarae wrth gynnig gwasanaeth rhagorol.”
Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth Chwarae Torfaen, Julian Davenne: “Mae wedi bod yn wyliau Pasg gwych gyda’r plant yn cael hwyl a’r cyfle i chwarae gyda’u ffrindiau dan oruchwyliaeth ofalus ein staff a’n gwirfoddolwyr. Hebddyn nhw, ni fyddai wedi bod modd cynnig cymaint o gyfleoedd i blant Torfaen. Rydym eisoes wedi dechrau cynllunio ar gyfer y Sulgwyn, i wneud yn siŵr y gallwn gynnig cymaint ag y bo modd i bawb.
Bydd gwybodaeth ar raglen chwarae’r haf yn dod drwy’r Ysgolion, neu gallwch gadw llygad ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Gwasanaeth Chwarae Torfaen.