Wedi ei bostio ar Dydd Iau 21 Ebrill 2022
Mae offer chwarae ym Mharc Glansychan, Abersychan, wedi ei fandaleiddio.
Mae siglen fasged wedi ei llosgi, sydd hefyd wedi difrodi’r llawr oddi tani.
Yn anffodus, mae hyn yn golygu ein bod wedi gorfod cau rhan o’r parc am resymau diogelwch nes gellir trwsio’r difrod. Y gost debygol ar gyfer y gwaith trwsio yw £3K.
Meddai siaradwr ar ran y cyngor: “Mae bob amser yn drist clywed bod offer chwarae wedi ei ddifrodi, gan ei fod yn golygu y bydd llawer o blant yn methu mwynhau’r parc fel y maent fel arfer, yn enwedig yn ystod gwyliau’r Pasg.
"Mae’r parciau yn boblogaidd iawn gyda phlant o bob oedran, ac mae difrod fel hyn wedi mynd â’r cyfleusterau hyn oddi arnynt nes gellir trwsio. Mae’n bechod bod nifer fechan o bobl anghyfrifol wedi mwynhau hwyl llawer.
"Yn anffodus, ni fydd y parc hwn ar agor am sbel nes gellir gwneud y gwaith trwsio. Rydym yn annog unrhyw un sy’n gwybod rhywbeth am y fandaliaeth ddifeddwl yma i gysylltu gyda’r cyngor neu gyda’r Heddlu "
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y fandaliaeth, ffoniwch y Cyngor ar 01495 762200 neu cysylltwch â Heddlu Gwent Police.