Gwanwyn Glân 2022 yn dechrau'n fuan

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 21 Ebrill 2022

 

Mae Gwanwyn Glân Torfaen 2022 yn dechrau ddydd Llun nesaf ym Mharc Sandybrook, Sain Derfel, o 9.30am.

Mae sesiynau hel sbwriel wedi eu trefnu mewn naw lleoliad ledled y fwrdeistref, gan gynnwys Siopau Fairwater yng Nghwmbrân; llwybr yr afon Chapel Lane i Edlogan Way, ac o gwmpas y Crown Hotel yn Varteg.

Mae Gwanwyn Glân Torfaen yn rhedeg o ddydd Llun 25 Ebrill hyd at ddydd Gwener 6 Mai felly mae digon o amser i chi gymryd rhan.

Manylion y digwyddiadau

Dyddiad: Llun 25 Ebrill
Amser: 9.30am – 12pm
Safle hel sbwriel: Parc Sandybrook a llwybrau cyffiniol
Man cyfarfod: Cae chwarae ym Mharc Sandybrook, Sain Derfel 

Dyddiad: Mawrth 26 Ebrill
Amser: 9.30am – 12pm
Safle hel sbwriel: Chapel Lane i Edlogan Way, llwybr yr afon
Man cyfarfod: Maes parcio Chapel ger y bont gefngrwm
Gweithio ar y cyd gyda grŵp Hyrwyddwyr Sbwriel Torfaen

Dyddiad: Mercher 27 Ebrill
Amser: 9am – 12pm
Safle hel sbwriel: Rosemary Lane, cefn banc HSBC a’r ardaloedd o gwmpas
Man cyfarfod: Maes parcio Rosemary Lane
Gweithio ar y cyd gyda grŵp Hyrwyddwyr Sbwriel Torfaen

Dyddiad: Iau 28 Ebrill
Amser: 9.30am – 12pm
Safle hel sbwriel: Llynnoedd Garn, Blaenafon
Man cyfarfod: Prif faes parcio, Garn yr Erw

Dyddiad: Gwener 29 Ebrill
Amser: 9am – 12pm
Safle hel sbwriel: Gorllewin Mynwy i Tesco – llwybrau a throsffyrdd
Man cyfarfod: St. Matthews Road, islaw’r man troi i fysus
Gweithio ar y cyd gyda grŵp Hyrwyddwyr Sbwriel Torfaen

Dyddiad: Mawrth 3 Mai
Amser: 9.30am – 12pm
Safle hel sbwriel: Llyn Cychod Cwmbrân
Man cyfarfod: Prif faes parcio

Dyddiad: Mercher 4 Mai
Amser: 9.30am – 12pm
Safle hel sbwriel: Siopau a maes parcio Fairwater
Man cyfarfod: Maes parcio siopau Fairwater 

Dyddiad: Iau 5 Mai
Amser: 9.30am – 12:30pm
Safle hel sbwriel: Parc Pont-y-pŵl
Man cyfarfod: Pen pellaf y prif faes parcio

Dyddiad: Gwener 6 Mai
Amser: 9.30am – 12:30am
Safle hel sbwriel: Varteg – ardal Crown Inn i’r llwybr beicio
Man cyfarfod: Lle parcio ger y Crown Inn, Varteg

Os hoffech gymryd rhan mewn digwyddiad, dewch draw a chofrestru ar y dydd. Fel arall, os hoffech drefnu eich sesiwn hel sbwriel eich hun, cysylltwch gyda rosie.seabourne@torfaen.gov.uk neu Mark.panniers@torfaen.gov.uk

Gofynnir i wirfoddolwyr wisgo dillad sy’n addas ar gyfer y tywydd, menig ac esgidiau cryf, dal dŵr, gan efallai y bydd y tir yn anwastad neu’n wlyb. Darperir offer hel sbwriel ar y dydd ac fe roddir sgwrs ar ddiogelwch. Dewch â diod gyda chi os yw’r tywydd yn debygol o fod yn gynnes.

Os hoffech gymryd rhan mewn mwy o sesiynau hel sbwriel ar ôl y Gwanwyn Glân, ymunwch â’n tudalen Facebook Gwirfoddolwyr Gwyrddach Glanach Torfaen  i chwarae rhan.

I gael gwybod mwy am gyfleoedd gwirfoddoli yn Nhorfaen, ewch i wefan Cysylltu Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 11/05/2022 Nôl i’r Brig