Gŵyl Gyfeiriadu yn dod i Flaenafon

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 13 Ebrill 2022

Bydd miloedd o gystadleuwyr yn anelu am Flaenafon ar Sul y Pasg fel rhan o ddigwyddiad cyfeiriadu pedwar diwrnod yng Nghymru, sy’n cychwyn y dydd Gwener yma.

Gŵyl Gyfeiriadu Ryngwladol Jan Kjellström yw digwyddiad cyfeiriadu mwyaf Prydain ac mae’n digwydd bob blwyddyn dros benwythnos y Pasg.

Mae cyfeiriadu yn sbort antur awyr agored, a’r nod yw symud rhwng pwyntiau penodol neu reolfeydd wedi eu marcio ar fap cyfeiriadu arbennig. Nid oes llwybr penodol, felly mae’r sgil a’r hwyl yn dod o geisio canfod y ffordd orau i fynd.

Mae Gŵyl Ryngwladol  JK yn fath cystadleuol o gyfeiriadu, gyda’r her o gwblhau’r cwrs yn yr amser cyflymaf.

Bydd oddeutu 2000 o gyfeiriadwyr o’r DU a gwledydd tramor yn cystadlu mewn sbrint, ras ganol, ras hir a ras gyfnewid mewn trefi a dinasoedd yng Nghymru fel rhan o’r digwyddiad.

Mae rhaglen y digwyddiad fel a ganlyn:

  • 15 Ebrill 2022 – Digwyddiad Sbrintio ym Mhrifysgol Abertawe
  • 16 Ebrill 2022 – Ras Ganol yn Clydach Terrace
  • 17 Ebrill 2022 – Ras Hir ym Mhwll Du
  • 18 Ebrill 2022 – Ras Gyfnewid yng Nghaerwent

Meddai siaradwr o Gyngor Torfaen: “Rydym yn falch bod y digwyddiad yma yn dod i Dorfaen eto, ar ôl cael ei gynnal yn y fwrdeistref yn 2014.  Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r holl bartneriaid lleol a threfnwyr y digwyddiad i sicrhau y bydd yn achlysur llwyddiannus, wedi ei reoli’n dda.

“Er y disgwylir i’r ardal leol fod yn brysurach nag arfer ar ddydd Sul. Bydd gwirfoddolwyr profiadol yn gweithio’n galed i sicrhau nad oes gormod o darfu ar drigolion lleol. Nid oes cynlluniau i gau ffyrdd yn yr ardal, er y bydd croesfan dros dro gyda goleuadau rheoli yn gweithredu ar yr B4248 yng Ngarn-Yr-Ew yn agos at Lynnoedd Garn ar Sul y Pasg i sicrhau diogelwch y cystadleuwyr.

“Rydym yn gobeithio y bydd yn rhoi hwb mawr ei angen i fusnesau lleol a dymunwn bob lwc i’r sawl sy’n cymryd rhan.”

Meddai siaradwr ar ran trefnwyr y digwyddiad British Orienteering, - “Rydym yn ddiolchgar i’r tirfeddianwyr, Dug Beaufort a Walters Mining a’u tenantiaid am gael defnyddio’r tir, i Grŵp Rheoli Comin Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon a Chominwyr y Blorenge am eu cefnogaeth, i drigolion Garn-Yr-Erw a Chymdeithas y Neuadd Les am gael defnyddio eu Cae Adloniant ac i Gyngor Torfaen am eu cefnogaeth barhaus”.

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ac am gyfeiriadu yn gyffredinol, ewch i: https://www.britishorienteering.org.uk/home

Diwygiwyd Diwethaf: 13/04/2022 Nôl i’r Brig