Diweddariad gŵyl banc y Pasg

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 11 Ebrill 2022

Ailgylchu a gwastraff

Ni fydd newid i ddiwrnodau casglu eleni yn ystod gwyliau banc y Pasg oherwydd bydd criwiau’n gweithio.  Rhowch eich gwastraff ailgylchu a’ch sbwriel allan ar eich diwrnod casglu arferol.

Bydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor fel oriau agor yr haf. Dydd Llun i ddydd Sadwrn 8am tan 5.45pm, a dydd Sul 9am tan 5.45pm

Bydd siop ailddefnydd Steelhouse ar agor fel arfer rhwng 9.30am tan 4.30pm pob dydd.

Llyfrgelloedd

Bydd Llyfrgell Cwmbrân yn cau ar gyfer y Pasg ddydd Iau 14 Ebrill am 7pm, a bydd yn ailagor ddydd Mawrth, 19 Ebrill am 9am.

Bydd Llyfrgell Blaenafon yn cau ar gyfer y Pasg ddydd Iau 14 Ebrill am 5pm, a bydd yn ailagor ddydd Mawrth, 19 Ebrill am 10am

Bydd Llyfrgell Pontypool yn cau ar gyfer y Pasg ddydd Iau 14 Ebrill am 1pm, a bydd yn ailagor ddydd Mawrth, 19 Ebrill am 2pm.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 11/04/2022 Nôl i’r Brig