Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 8 Ebrill 2022
Mae adran arlwyo ysgolion Cyngor Torfaen wedi ennill gwobr am arloesi yng Ngwobrau Arlwyo’r Sector Cyhoeddus.
Enwebwyd y tîm am waith arloesol yr adran i gefnogi disgyblion ag awtistiaeth sy’n gweld cinio ysgol yn heriol.
Roedd pedwar arall wedi eu henwebu ar gyfer y gwobrau a ddigwyddodd yn Llundain ddydd Iau.
Dywedodd Rachel Jowitt, Prif Swyddog Cymdogaethau, ar ran Cyngor Torfaen: "Mae ennill y Wobr Arloesi’n dangos bod y Tîm Arlwyo Ysgolion yn gwneud mwy na dim ond arlwyo. Maen nhw’n arloesi ac yn chwilio am atebion i helpu’r bobl y maen nhw’n darparu ar eu cyfer.
"Ar ran y Cyngor, hoffwn longyfarch y tîm am eu gwaith caled a’u hymroddiad. Roedd yn wych. Roedd yn wych clywed eu bod nhw wedi ennill y wobr, a dylen nhw fod yn falch iawn pob un."
Gweithiodd y tîm gyda Swyddog Awtistiaeth Plant a Phobl Ifanc Cyngor Torfaen, dietegydd plant sy’n arbenigo mewn awtistiaeth, Awtistiaeth Cymru a rheini i ddatblygu polisi i sicrhau bod addasiadau’n cael eu gwneud i’r bwyd a mannau bwyta pan fo angen.
Maen nhw hefyd wedi cael statws Sefydliad Ymwybodol o Awtistiaeth ar ôl i 150 o staff gael hyfforddiant ynglŷn ag awtistiaeth.
Dywedodd Mary Rose, cogydd yn Ysgol Gynradd George Street ym Mhont-y-pŵl: “Roedd y cwrs ymwybyddiaeth yn ddefnyddiol iawn oherwydd mae gennym fachgen bach ag awtistiaeth yn yr ysgol ac mae e’n cael cinio weithiau. Dyw e ddim yn hoff o unrhyw fath o newid mewn gwirionedd, dyw e hyd yn oed ddim yn hoffi eistedd wrth fwrdd gwahanol. Mae’n rhaid iddo fod yn yr un man pob dydd.
"Helpodd y cwrs fi i ddeall sut mae e’n gweld pethau. Yr unig fwyd y bydd yn bwyta yw cig a grefi, felly pan mae e’n dod i gael cinio, rwy’n gwneud yn siŵr mai dyna’r hyn sydd ar gael iddo. Ar ôl gwneud y cwrs, rwy’n deall mwy nawr am sut mae e’n cael trafferth ymdopi â phethau.”
Dywedodd Cheryl Deneen, Swyddog Awtistiaeth Plant a Phobl Ifanc Cyngor Torfaen: “Mae tîm Arlwyo Torfaen wedi bod yn rhagweithiol iawn wrth godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth yn y timau arlwyo ar draws yr awdurdod.
"Maen nhw’n ymrwymedig hefyd at ddatblygu cyfleoedd pellach i staff ymestyn eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu plant a phobl ifanc ag awtistiaeth wrth fwyta.
"Mae’r polisi yma’n adlewyrchu eu hymrwymiad i gydweithio â phlant a phobl ifanc, teuluoedd a phobl broffesiynol. Rwy’n falch o gael rhannu’r newyddion mai Torfaen yw’r Tîm Arlwyo cyntaf yng Nghymru i gwblhau’r hyfforddiant yma, sydd yn rhywbeth hollol anhygoel.”
Enwebwyd y tîm arlwyo yn Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pont-y-pŵl, hefyd am Wobr Arlwyo Addysgol.
I ddysgu mwy am arlwyo mewn ysgolion yn Nhorfaen, ewch i https://www.torfaen.gov.uk/cy/EducationLearning/SchoolsColleges/Schoolcatering/School-Meals.aspx