Wedi ei bostio ar Dydd Iau 30 Medi 2021
Ymhen llai nag wythnos, bydd y cynnydd o £20 yr wythnos a gyflwynwyd yn ôl ym mis Mawrth 2020 yng ngoleuni pandemig Covid-19 i'r rheini sy'n hawlio Credyd Cynhwysol, yn cael ei ddileu.
Ydych chi’n barod am y newid hwn?
Er mwyn eich helpu i gynllunio'ch cyllid o Hydref 2021 heb y cynnydd wythnosol o £20, rydym wedi nodi isod faint yn llai y gallai eich taliad misol fod.
Bydd lwfans safonol Credyd Cynhwysol bob mis calendr yn newid fel a ganlyn o dan y senarios categori talu canlyno:
- Bydd taliad 2021 ar gyfer y rheini sy'n sengl a dan 25 oed - yn gostwng o £344 i £257.33
- Bydd taliad 2021 ar gyfer y rheini sy'n sengl a 25 oed neu'n hŷn - yn gostwng o £411.51 i £324.84
- Bydd taliad 2021 ar gyfer cwpl sydd ill dau o dan 25 oed - yn gostwng o £490.60 i £403.93 (cyfanswm yw hynny nid swm i bob person)
- Bydd taliad 2021 ar gyfer cwpl sy'n 25 oed neu'n hŷn - yn gostwng o £596.58 i £509.91 (cyfanswm yw hynny nid swm i bob person)
Gall symiau amrywio ychydig pan fydd y gostyngiad yn cychwyn.
Os yw’r newid yn effeithio arnoch, dyma beth allwch chi wneud nawr i’ch helpu i baratoi ar ei gyfer.
Os ydych chi’n ddi-waith:
- Ydych chi wedi ystyried dychwelyd i'r gwaith?
- Ydych chi'n gwybod ble i fynd am help?
- A oes gennych y sgiliau diweddaraf neu a oes angen eu hadnewyddu?
- Ydych chi'n gwybod pa swyddi sydd ar gael yn yr ardal leol?
Os ydych chi’n gweithio:
- Ydych chi wedi ystyried gweithio mwy o oriau?
- A fydd gweithio mwy o oriau yn golygu eich bod yn talu am ofal plant?
- Ydych chi'n gwybod ble i fynd am help?
- Ydych chi wedi ystyried newid i yrfa sy'n talu mwy?
Gallwch gysylltu â chynghorydd cyflogaeth a sgiliau profiadol i ddechrau edrych ar ffyrdd o gynyddu eich incwm i'r eithaf.
Llenwch y ffurflen hon neu ffoniwch 01633 647647