Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 22 Medi 2021
Mae gwirfoddolwr gyda Lleng Brydeinig Frenhinol Blaenafon wedi ennill Gwobr Gymunedol yng Ngwobrau Cyn-filwyr Cymru am fynd yr ail filltir ar ran y gymuned lluoedd arfog yn lleol.
Enwebwyd Cyril Turner, cyn-filwr 72 oed gyda Chyffinwyr De Cymru, gan Hyrwyddwr Y Lluoedd Arfog yng Nghyngor Torfaen am roi cymaint o’i amser at gydnabod a gwella bywydau cyn-filwyr ym Mlaenafon.
Mae Cyril yn geidwad ymroddedig cloc tref Blaenafon, cloc coffa i’r rhai a fu farw yn ystod y ddau Ryfel Byd.
Gyda help gwirfoddolwyr, mae Cyril wedi trawsnewid y gerddi sydd o gylch y cloc, ac wedi creu Gardd Goffa, gyda gwelyau blodau a meinciau a lle llonydd i feddwl.
Ef oedd y prif symbylydd wrth ymchwilio i a chasglu enwau’r cyn-filwyr hynny o’r dref a fu mewn gwrthdrawiadau hanesyddol eraill nad oedd eu henwau’n ymddangos ar y Gofeb.
Mae ei waith wedi golygu bod enwau’r rheiny a gollwyd yn ystod Rhyfel y Boeriaid. Rhyfel Corea a’r ymladd yng Ngogledd Iwerddon yn cael eu cofio.
Fel aelod o gangen leol y Lleng Brydeinig ers dros 25 mlynedd, mae Cyril, gyda’i gymar Lesley, hefyd yn rheoli siop y Lleng Brydeinig yn y dref ac yn codi arian hanfodol i’r elusen.
Fel Cludwr Baner dros y Lleng Brydeinig, dyw Cyril byth yn colli cyfle i godi ymwybyddiaeth o’r Lluoedd Arfog, y brwydrau a gwaith da’r lluoedd arfog wrth amddiffyn y wlad.
Gan fynd llawer ymhellach na’r digwyddiadau coffa lleol arferol, mae’n mynychu gwasanaethau ysgol, digwyddiadau eraill mewn rhannau eraill o Gymru ac ar y cyfandir, ac yn gwneud y cyfan yn wirfoddol.
Trwy ei waith gyda Chomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad, mae Cyril yn cynnal y 7 bedd sydd ym Mynwent Eglwys Sant Pedr, Blaenafon
Dywedodd y Cynghorydd Jon Horlor, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Torfaen, “Mae’n deg dweud bod Cyril wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau am gyn-filwr, gan dreulio amser yn sicrhau bod pawb sydd wedi gwasanaethu yn cael eu cydnabod a’u cofio.
Nid yw ei waith diflino’n mynd heb gydnabyddiaeth ac rydym yn teimlo’n gryf y byddai enwebiad am Wobr Gymunedol yn deilwng o ddyn sy’n mynd yr ail filltir, fel llysgennad ar ran y Lluoedd Arfog ym Mlaenafon.”