Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 22 Medi 2021
Mae cynllun i ailgylchu plastig ymestynnol yn Nhorfaen wedi ei oedi dros dro ar ôl tân dinistriol yn Capital Valley Plastics.
Mae Cyngor Torfaen wedi bod yn gweithio gyda’r cwmni ers 2019 i ailgylchu eitemau fel bagiau plastig, papur swigod a phapur lapio bwyd a fyddai fel arall yn mynd i’w claddu. Mae Capital Valley Plastics yn casglu ac yn troi’r deunydd nad oes modd ei ailgylchu i fod yn gynhyrchion i’r diwydiant adeiladu. Mae chwech ar hugain o dunelli o blastig ymestynnol wedi eu hailgylchu yn Nhorfaen ers dechrau’r cynllun.
Effeithiodd y tân, ar ddydd Sadwrn, Medi, ar nifer o rannau o safle’r cwmni ym Mlaenafon.
Mae’n golygu y bydd casgliadau o’r pwyntiau casglu canlynol yn cael eu gohirio am y tro:
- Safle CVP ar ystâd Kays and Kears
- Banc Swyddfeydd Cyngor Torfaen
- Swyddfa Bost Artie Craftie Blaenafon
- Banc CVP Cwmavon Road
- Banc Ysgol Gynradd Bryn Onnen
- Canine Corner, Croesyceiliog
- Able radio
- Market Village, Canol Tref Cwmbrân
- Swyddfa Bost, Tal-y-waun
- Clwb Rygbi Blaenafon
- Zero Waste Torfaen
- Siop cyfleustra- Edlogan Square
- The Costar Partnership
- Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, Torfaen
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae ein cydymdeimlad gyda Capital Valley Plastics a’u staff sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad ofnadwy yma.
“Mae’r bartneriaeth rhwng Cyngor Torfaen a Capital Valleys Plastics i leihau faint o blastig nad oes modd ei ailgylchu sy’n mynd i’w gladdu, wedi bod yn llwyddiannus iawn ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw yn y dyfodol.”
Dywedodd Daisy Edwards, Rheolwr Cynllun Cynaliadwyedd: “Rydyn ni wedi’n synnu gyda’r dymuniadau da a’r gefnogaeth yr ydym wedi eu derbyn yn yr wythnos diwethaf ers y tân yn ein safle ar ystâd Kays and Kears. Hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth a’u hamynedd yn ystod yr adeg anodd yma. Rydyn ni’n awyddus i ailddechrau’r cynllun ailgylchu cyn gynted â phosibl a byddwn yn ymdrechu i fynd yn ôl at wneud yr hyn yr ydym yn ei garu sef helpu i warchod ein hamgylchedd trwy ailgylchu plastig ymestynnol” – Capital Valley Plastics
Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch chi, cysylltwch os gwelwch yn dda â Daisy Edwards ar 01495 772255 neu daisy@capitalvalleyplastics.com