Rydym ni'n chwilio am ofalwyr maeth newydd i'n plant

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 20 Medi 2021
Young-girl-at-scool-looking-distant-scaled copy

Mae Maethu Cymru Torfaen yn rhan o ymgyrch genedlaethol newydd i recriwtio mwy o ofalwyr maeth i blant lleol.

Mae Maethu Cymru, y rhwydwaith o 22 o wasanaethau maethu awdurdod lleol yng Nghymru, am gael effaith sylweddol ar ddyfodol pobl ifanc trwy ddenu mwy o ofalwyr maeth.

Ledled y wlad, mae pob plentyn sydd angen gofalwr maeth yng ngofal yr awdurdod lleol.

Mae ymgyrch hysbysebu newydd, yn cynrychioli Cyngor Torfaen a’r 21 o dimau maethu nid er elw eraill sydd yn rhan o Faethu Cymru, yn ceisio cynyddu’r nifer o rieni maeth y mae eu hangen i gadw plant yn eu hardaloedd lleol, pan fo hynny’n iawn iddyn nhw.. 

Gall helpu plant i aros yn eu cymunedau fod o fudd mawr a golygu’r byd i blentyn.  Nid yn unig mae’n eu cadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau, eu hysgolion a’u synnwyr o hunaniaeth, ond mae’n adeiladu hyder hefyd ac yn lleihau straen. 

Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol Torfaen dros Blant, Teuluoedd a Chymunedau, “Mae dod yn ofalwr maeth yn benderfyniad i gefnogi plant a phobl ifanc lleol i gyrraedd eu potensial llawn ym mhob agwedd o’u bywydau.

Mae angen rhywun i wrando arnyn nhw, credu ynddyn nhw a rhywun sydd ar eu hochr ar bob plentyn, ond, yn fwyaf pwysig, mae angen rhywun i’w caru ac i ofalu amdanyn nhw.

Trwy fod yn ofalwr maeth Awdurdod Lleol, gallwch weithio gyda phobl sy’n rhannu’r un nod; pobl sydd am eich cefnogi bob cam o’r ffordd a sicrhau eich bod yn gallu diwallu anghenion y plant/pobl ifanc yn eich gofal.

 “Mae unrhyw un sy’n maethu trwy eu tîm Maethu Cymru lleol yn gwneud hynny gan wybod y byddwn ni, beth bynnag yw cyfeiriad eu taith maethu, gyda nhw pob cam o’r ffordd gydag arbenigedd, cyngor a chyfleoedd dysgu a datblygu er mwyn cefnogi eu taith maethu.”

Bydd yr ymgyrch newydd gan Faethu Cymru ar y teledu, radio, Spotify a llwyfannau digidol.

Amcangyfrifir bod angen 550 o ofalwyr maeth newydd ar draws Cymru i ofalu am y niferoedd o blant sydd angen gofal a chefnogaeth.

Gan nad oes dau blentyn yr un fath, felly hefyd y gofal maeth sydd ei angen arnyn nhw.  Does dim teulu maeth ‘arferol’.  P’un ai yw rhywun yn berchen ar eu cartref eu hunain neu’n rhentu, p’un a ydyn nhw’n briod neu’n sengl. Beth bynnag yn eu rhywedd, cyfeiriad rhywiol, ethnigrwydd neu ffydd, mae yna bobl ifanc sydd angen rhywun ar eu hochr.  

I wybod mwy am faethu llywodraeth leol yn Nhorfaen, ewch i Fosterwales.torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 20/09/2021 Nôl i’r Brig