Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 17 Medi 2021
Fel rhan o’n hymdrech i greu Torfaen, glanach, gwyrddach, mae’r Cyngor a Chadwch Cymru’n Daclus (CCD) wedi trefnu nifer o sesiynau codi sbwriel yr wythnos nesaf.
Darperir offer, ond sicrhewch os gwelwch yn dda, eich bod yn gwisgo dillad priodol.
Dyddiad: Dydd Llun 20 Medi
Amser: 9:30 tan 12
Lleoliad: Coedwig Llwyncelyn, Oxtens, Coed Efa, Cwmbrân, NP44 4TP
Dyddiad: Dydd Mawrth 21 Medi
Amser: 9:30 tan 12
Lleoliad: Tipiau Canada, Pwll Du, Blaenafon. Cwrdd ym maes parcio’r Cipar
Dyddiad: Dydd Mercher 22 Medi
Amser: 9:30 tan 12
Lleoliad: Valentine Road/Afon Llwyd. Cwrdd ym Maes Parcio Union Street/Broad Street, Abersychan
Dyddiad: Dydd Iau 23 Medi
Amser: 9:30 tan 12
Lleoliad: Glanhau’r Afon ym Mhonthir. Cwrdd yn yr Orsaf Bwmpio, wrth Barnfields, Ponthir
Dyddiad: Dydd Gwener 24 Medi
Amser: 9:30 tan 12
Lleoliad: Glanhau Camlas Bwrdeistref Sirol Torfaen. Cwrdd wrth Bont 47 (Pont Soloman)
I gymryd rhan, ewch i wefan Cyswllt Torfaen: https://connecttorfaen.org.uk/profile/rosie_1340
Os oes gyda chi gwestiynau, cysylltwch â rosie.seabourne@torfaen.gov.uk