Cyngor yn derbyn allweddi canolfan llesiant newydd sbon

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 17 Medi 2021
Ty GLas 2

Mae cynlluniau ar gyfer hwb newydd gwerth miliynau o bunnoedd wedi cymryd cam sylweddol ymlaen.  

Bydd y ganolfan aml bwrpas yng Nghwmbrân yn cynnig llety moethus ar gyfer arhosiad galluogi dros gyfnod byr a gofal seibiant, cyfleusterau cymunedol modern a nifer fach o fflatiau i denantiaid lleol.    

Yn gynharach heddiw, cafodd Cyngor Torfaen yr allweddi i Dŷ Glas y Dorlan gan y cwmni adeiladu o Flaenafon, P&P, a Thai Cymunedol Bron Afon, a gynorthwyodd i ddylunio’r cyfleuster.  

Mae’n golygu y gall staff ddechrau’r paratoadau terfynol cyn agor y ganolfan £3.7m yn swyddogol yn Nhachwedd.  

Dywedodd Alan Brunt, Prif Weithredwr Bron Afon: “Rwy’n credu ei fod yn adeilad deniadol iawn, a bydd y staff sy’n gweithio yma’n helpu i greu profiadau sy’n newid bywydau a gwella lles y bobl a fydd yn dod yma.  

“Y prosiect yma yw’r cyntaf o’i fath yn Nhorfaen i ddarparu gwasanaethau a fydd yn cynnig gofal a chynhwysiant cymdeithasol yn ein cymuned. Mae Bron Afon yn falch o fod yn bartner yn y cynllun arloesol yma.” 

Ychwanegodd Rheolwr Datblygu P&P Builders, Tim Crooks: “Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Bron Afon a Chyngor Torfaen i gyflenwi’r adeilad yma sydd wedi trawsnewid y lle i fod yn gyfleuster arloesol i’r gymuned.” 

Mae’r ganolfan newydd, a adeiladwyd ar safle hen dafarn y Kingfisher ym Mryn Eithin, wedi ei hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru ac mae’n seiliedig ar fodel arloesol sy’n gosod anghenion yr unigolion wrth galon y dyluniad.  

Mae’n cynnwys chwech fflat wedi eu rheoli gan Bron Afon i drigolion tymor hir, a 12 fflat hunangynhaliol ar gyfer gofal seibiant neu egwyl fer i ofalwyr.  

Mae’r fflatiau wedi eu dylunio i edrych a theimlo fel ystafell mewn gwesty ac maen nhw’n cynnwys y diweddaraf mewn technolegol gynorthwyol a chefnogaeth 24/7 ar y safle.  

Bydd gan gleientiaid fynediad hefyd i’r cyfleusterau cymunedol a chydlynydd adloniant.    

Bydd gan aelodau o’r cyhoedd fynediad i gyfleusterau’r ganolfan, gan gynnwys cyfleoedd i roi tro ar dechnoleg gynorthwyol, bwcio ystafelloedd a mynychu digwyddiadau.  

Dywedodd Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Wasanaethau Oedolion, y Cynghorydd David Daniels: “Mae’r digwyddiad heddiw yn nodi penllanw misoedd o waith caled gan Dimau Gofal Cymdeithasol a Thai Torfaenna’n partneriaid P&P a Thai Bron Afon.  

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu trigolion ac aelodau’r cyhoedd yn nes ymlaen yn y flwyddyn, ac at weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ddarparu gwasanaeth galluogi a seibiant o’r radd flaenaf.”  

I wybod mwy am sut i wneud cais am denantiaeth neu swyddi, ewch i wefan Cyngor Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 07/02/2022 Nôl i’r Brig