Wedi ei bostio ar Dydd Iau 16 Medi 2021
Mae cyn-weithiwr gofal wedi lansio ei busnes ei hun yn cynnig gofal cyfeillgarwch i’r henoed, diolch i raglen Cymunedau am Waith a Mwy Cyngor Torfaen.
Mae Careline Services yn cysylltu cleientiaid â gofalwyr profiadol sy’n gallu mynd gyda nhw am ddiwrnod allan, cynnig gofal seibiant neu gael paned a sgwrs.
Syniad Sarah Neale, o Gwmbrân yw hyn i gyd, a gafodd ei chyfeirio at raglen Cymunedau am Waith a Mwy gan hyfforddwr gwaith yng Nghanolfan Waith Cwmbrân.
Dywedodd Sarah, “Rydw i wrth fy modd yn gwrando ar eu storïau, eu profiadau a sut y maen nhw wedi dod trwy bethau, maen nhw’n ddiddorol tu hwnt.
Yn anffodus, i rai, mae’n gallu bod yn adeg unig, ac er nad yw teuluoedd wedi eu hanghofio, mae gan deuluoedd fywydau prysur a dydyn nhw ddim bob amser yn gallu rhoi cymaint o amser ag y bydden nhw eisiau.
Roeddwn i’n teimlo na ddylai unrhyw un fod yn unig ac mae treulio cyn lleied ag awr gyda rhywun yn gallu gwella’u hiechyd yn syfrdanol. Roeddwn i am newid hynny ac felly sefydlais i “Careline Services Ltd”.”
Cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Cymunedau am Waith a Mwy and mae’n cefnogi pobl ddi-waith.
Helpodd y tîm Sarah i ddatblygu ei chynllun busnes, rhoddon nhw arian iddi ar gyfer cymorth busnes arbenigol, mentora a marchnata.
Ychwanegodd Sarah “Fuaswn i ddim wedi gallu dechrau’r busnes yma heb gefnogaeth Lisa a chynllun Cymunedau am Waith a Mwy.
Fel cwmni newydd, mae gyda ni gystadleuaeth gan fusnesau mwy sefydledig, felly mae angen amser ac amynedd i gyrraedd y nod, ond os gallwn ni wneud gwahaniaeth bach hyd yn oed i nifer fach o bobl, yna fe fydda’ i wedi llwyddo.
Dyw e ddim fel gwaith i fi, mae’n bleser treulio amser gyda nhw, ac mae gweld gwên ar eu hwynebau yn gwobrwyo’r ymdrech i fi”.
Dywedodd Aelod Gweithredol Torfaen dros Blant, Teuluoedd a Chymunedau, y Cynghorydd Fiona Cross, “Mae’n wych clywed am fusnes arall yn dechrau yn Nhorfaen, yn enwedig un fel hwn sy’n ceisio helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd ymysg y genhedlaeth hŷn.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n ystyried hunangyflogaeth fel dewis iddyn nhw a, gyda’r gefnogaeth iawn a chyfarwyddyd, mae yna gyfleoedd i ddatblygu syniad busnes a gwireddu’ch breuddwydion.
Rwy’n hynod o falch o’r gefnogaeth effeithiol a pharhaus sydd wedi ei rhoi gan Raglen Cymunedau am Waith a Mwy sydd wedi bod yn amlwg yn sefydlu’r busnes hwn.
Mae yna amrywiaeth eang o gefnogaeth ar gael trwy’r Cyngor ar gyfer pob agwedd ar gyflogaeth fel mentora, hyfforddiant ac arian. Rydw i’n annog unrhyw un yn Nhorfaen sydd â diddordeb mewn hunangyflogaeth neu mewn cael gwaith i gysylltu â’r tîm.”
Os ydych chi’n gwybod am rywun a allai elwa o wasanaethau Careline Services, ffoniwch nhw ar 07548216037, danfonwch e-bost at carelineservices02@gmail.com neu ewch at y wefan: careline-services-ltd.webnode.com
P’un ai gêm o wyddbwyll neu rywun i fynd i’r sinema sydd ei angen, gofal seibiant neu ddiwrnod allan, byd gyda nhw rywun i chi.