Wedi ei bostio ar Dydd Iau 16 Medi 2021
Bydd staff yn Llyfrgelloedd Torfaen yn dathlu 10 mlynedd o sesiynau Amser Rhigwm yr wythnos nesaf.
I ddathlu, byddan nhw’n cynnal cyfres o sesiynau stori yn Llyfrgell Cwmbrân ar ddydd Gwener, Medi 24. Bydd lleoedd yn gyfyngedig o ran nifer felly mae angen bwcio.
Bydd digwyddiad byw arbennig o Amser Rhigwm hefyd ar Facebook i unrhyw un na all ddod.
Bydd y sesiynau am 10am, 11am, 12pm, 1pm a 2pm, a byddan nhw’n para 30 munud. Bydd pob sesiwn yn cynnwys storïau, pypedau, propiau a hwiangerddi. Bydd y digwyddiad ar Facebook am 4pm.
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, yr Aelod Gweithredol dros yr Economi a Sgiliau: “Hoffwn ddiolch i dîm y llyfrgell am eu gwaith wrth gadw Amser Rhigwm i fynd cyhyd. Mae’n gamp fawr i dîm mor fach.
“Rydym yn gwybod o’r adborth bod mwynhad mawr ar y sesiynau, ac rydw i’n annog unrhyw un â phlant bach i gofrestru am sesiwn neu gymryd rhan ar-lein.
“Dyma fydd sesiwn cyntaf y tîm ar-lein ar Facebook felly byddwch yn amyneddgar os bydd unrhyw broblemau’n codi. Roedd y tîm yn awyddus i gael cymaint o blant i gymryd rhan â phosibl a dyna pam dewiswyd 4pm, fel bod y rheiny sydd yn yr ysgol yn gallu ymuno hefyd.
“Felly, rieni a gofalwyr, rhowch y dyddiad yn y dyddiadur, mae’n siŵr o fod yn 30 munud o hwyl arbennig.”
I gadw lle yn un o sesiynau stori’r llyfrgell, ffoniwch Lyfrgell Cwmbrân ar 01633 647676. Gall pum teulu yn cynnwys 1 oedolyn a mwyafswm o 2 blentyn ddod i bob un o’r sesiynau
I gymryd rhan yn y sesiwn Facebook, ewch i dudalen Facebook Llyfrgelloedd Torfaen, a chliciwch ar y postiad i gymryd rhan.
Os na allwch chi ddod i unrhyw un o’r sesiynau ar y diwrnod, neu i’r sesiwn ar-lein, ewch at sianel YouTube Llyfrgelloedd Torfaen ble mae’r tîm wedi dewis nifer o’u hoff sesiynau Amser Rhigwm i chi gael eu gwylio.
I wybod mwy am Lyfrgelloedd Torfaen ewch i dudalen Llyfrgelloedd Torfaen ar y we.