Mae Sialens Ddarllen yr Haf bron ar ben!

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 10 Medi 2021

Mae dal i fod amser i orffen Sialens Ddarllen yr Haf os oes gennych lyfr neu ddau ar ôl.

Daw'r her i ben ddiwedd mis Medi, ac mae'n rhaid darllen cyfanswm o chwe llyfr o restr llyfrau Her Darllen yr Haf.

Bydd pawb sy'n gorffen yn derbyn medal a thystysgrif, a bydd eu cerdyn her gorffenedig yn cael ei gynnwys yn y raffl i ennill taleb siop deganau.

Pob lwc i bawb.

Diwygiwyd Diwethaf: 10/09/2021 Nôl i’r Brig