Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 10 Medi 2021
Gallwch weld beth sy’n digwydd i’r gwastraff rydych yn ei roi yn eich bin caead piws drwy fynd ar daith rithwir o gwmpas Cyfleusterau Adennill Ynni (CAY) Parc TridentViridor.
Mae CAY Parc Trident wedi bod yn gweithredu ers 2014, yn delio gyda rhyw 400,00 tunnell o wastraff tŷ na ellir ei ailgylchu bob blwyddyn, ac mae’n gwyro o leiaf 95% o wastraff De Cymru – gan gynnwys gwastraff Torfaen - i ffwrdd o safleoedd tirlenwi. Mae hefyd yn cynhyrchu 250GWh o drydan i’r Grid Cenedlaethol, sy’n ddigon i bweru oddeutu 68,000 o aelwydydd.
I gymryd rhan yn un o’r ddwy daith rithwir sydd ar gael, cliciwch ar y dolenni isod:
Mis Medi yma, bydd mwy na 150 o safleoedd hanesyddol, tirnodau a gemau cudd Cymru yn cynnig mynediad, digwyddiadau neu deithiau tywys am ddim i ymwelwyr fel rhan o Ddrysau Agored.
Drysau Agored yw cyfraniad blynyddol Cymru i fenter Dyddiau Treftadaeth Ewropeaidd, sy’n gwahodd sefydliadau treftadaeth, perchnogion preifat, awdurdodau lleol ac eraill i agor eu drysau neu gynnig gweithgareddau yn rhad ac am ddim i’r cyhoedd yn ystod mis Medi.
Wedi ei ariannu a’i drefnu gan Cadw, bydd yr ŵyl boblogaidd o dreftadaeth adeiledig Cymru eleni yn annog trigolion Cymru ac ymwelwyr fel ei gilydd i frwydro safleoedd llai, a llai adnabyddus y wlad – llawer ohonynt fel rheol ar gau i’r cyhoedd.