HomeNewyddionCystadleuaeth ffotograffiaeth yn dathlu dyfrffyrdd Torfaen
Cystadleuaeth ffotograffiaeth yn dathlu dyfrffyrdd Torfaen
Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 8 Medi 2021
Galw ffotograffwyr amatur!
Mae gennym gystadleuaeth gyda’r testun Golygfeydd a Natur o Amgylch Dyfrffyrdd Torfaen.
Bydd yr enillydd yn derbyn taleb gwerth £25 gyda’r ail a’r trydydd yn ennill £15 a £10. Bydd cynigion y tri yn cael eu harddangos yn ein hwb llesiant amlbwrpas newydd yng Nghwmbrân.
Danfonwch eich cynigion trwy e-bost at TyGlasYDorlan@torfaen.gov.uk erbyn 4pm ddydd Gwener, Medi 24.
Telerau ac Amodau:
- Rhaid i luniau gael eu cyflwyno mewn ffurf ddigidol ac o leiaf 10 megabeit o faint. JPEG yw’r ffordd hawsaf i gyflwyno’r llun os ydych yn ei ddanfon trwy e-bost.
- Rhaid bod y llun wedi ei gymryd yn Nhorfaen
- Rhaid bod yr ymgeisydd yn byw yn ardal cod post Torfaen.
- Dim ond un cais y person.
- Rhaid i’r llun fod yn ddarlun sengl and nid yn ddarlun cyfansawdd o luniau eraill.
- Rhaid i bob darlun a gyflwynir fod yn waith yr unigolyn sy’n eu cyflwyno a heb fod wedi eu cyhoeddi yn unman arall neu wedi ennill mewn unrhyw gystadleuaeth ffotograffiaeth arall.
- Cyfrifoldeb pob ymgeisydd yw sicrhau bod unrhyw luniau y maen nhw’n eu cyflwyno wedi eu cymryd gyda chaniatâd y gwrthrych ac nid yw’n tramgwyddo hawlfraint unrhyw drydydd parti neu unrhyw gyfreithiau.
- Rhaid i ymgeiswyr warantu mai eu gwaith nhw yw’r llun y maen nhw’n ei gyflwyno a’u bod yn berchen ar yr hawlfraint.
- Bydd hawlfraint ar gyfer pob llun a gyflwynir i’r gystadleuaeth hon yn aros gyda’r ymgeiswyr unigol. Serch hynny, o ystyried eu bod yn darparu’r Gystadleuaeth, bydd pob ymgeisydd yn rhoi trwydded fyd-eang, di-alw’n-ôl, parhaol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i ddangos unrhyw un neu bob un o’r lluniau a gyflwynir yn unrhyw un o’u cyhoeddiadau, eu gwefannau a/neu unrhyw ddeunydd hyrwyddol a gysylltir â’r gystadleuaeth yma.
- Y llun buddugol fydd hwnnw a fernir gan y beirniaid fel yn un mwyaf gweledol ddeniadol. Bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol.
Diwygiwyd Diwethaf: 08/09/2021 Nôl i’r Brig
© Copyright 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen