Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 3 Medi 2021
O 7.30am ddydd Llun, 6 Medi, bydd maes parcio Amgueddfa Pont-y-pŵl ar gau i'r cyhoedd er mwyn caniatáu ailadeiladu wal yr afon.
Bydd y maes parcio yn parhau ar gau hyd nes y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, a disgwylir y bydd yn cymryd wyth wythnos yn dibynnu ar y tywydd a lefelau'r afon.
Mae Cyngor Torfaen yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra yn ystod yr amser hwn.
Mae parcio am ddim ar gael ym meysydd parcio Glan yr Afon a Rosemary Lane gerllaw.
Am wybodaeth bellach, ffoniwch Mark Strickland ar 01495 762200.