Cau pont droed i ailosod arwyneb newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 21 Hydref 2021

Bwriedir ailosod arwyneb y bont droed sy'n croesi Afon Lwyd ger Canolfan Chwaraeon a Chymdeithasol Woodland Road yr wythnos nesaf.

Gan fod y bont yn rhan o'r llwybrau diogel i'r ysgol, bydd y bont ar gau yn ystod hanner tymor sef, 23 Hydref - 31 Hydref. Rhagwelir y bydd y gwaith yn cymryd 3 diwrnod llawn.

Hoffem ddiolch i'r trigolion am eu hamynedd.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/10/2021 Nôl i’r Brig