Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 20 Hydref 2021
Ar hyn o bryd, mae prinder cenedlaethol o lampau LED, sy’n arwain at waith yn hel o ran trwsio goleuadau sydd wedi mynd allan yn y fwrdeistref. Mae prinder o’r darnau sy’n mynd i wneud y lampau LED, ac mae problemau hefyd gyda’u cludo.
Pan fydd y Cyngor yn derbyn y lampau, bydd y gwaith sydd angen ei wneud yn digwydd yn nhrefn dyddiad. Ar hyn o bryd, disgwylir i’r lampau gyrraedd ganol mis Rhagfyr.
Hoffai’r Cyngor ddiolch i drigolion am eu hamynedd.