Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 20 Hydref 2021
Bydd canolfan newydd £24m ar gyfer holl addysg ôl-16 yn Nhorfaen yn cael ei hagor yn swyddogol yr wythnos hon.
Agorodd Parth Dysgu Torfaen Coleg Gwent, yng Nghwmbrân, i fyfyrwyr ym mis Ebrill.
Ers hynny, yn fwy na 1,300 o fyfyrwyr wedi cofrestru ar gyrsiau Lefel-A, amrywiol gymwysterau galwedigaethol, gradd sylfaen a Bagloriaeth Cymru.
Ar ddydd Iau, bydd y myfyrwyr yn croesawu uwch aelodau Cyngor Torfaen, Coleg Gwent a gwleidyddion lleol gan gynnwys Aelod y Senedd Lynne Neagle i’r agoriad swyddogol, sydd wedi ei ohirio oherwydd y pandemig coronafeirws.
Mae’r ganolfan newydd, sydd â’r cyfleusterau diweddaraf yn cynnwys ystafelloedd cerddoriaeth a chyfryngau, neuadd berfformio a labordai gwyddoniaeth, drws nesaf i archfarchnad Morrisons ac mae cysylltiadau cludiant cyhoeddus gwych yno o bob cwr o’r fwrdeistref.
Mae’r ganolfan newydd yn disodli tri chweched dosbarth ysgolion Saesneg eu cyfrwng ym Mhont-y-pwl a Chwmbrân.