Llun o'r gamlas yn ennill cystadleuaeth

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 18 Hydref 2021
Ty Glas photo montage

Winning entries

Mae’r buddugol yng nghystadleuaeth ffotograffiaeth Tŷ Glas y Dorlan wedi ei ddewis.  

Allan o fwy na 90 o geisiadau, ffotograff James Saddler o gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu, ger Pont-y-pŵl, a aeth â sylw’r beirniaid. 

Aeth yr ail le i Neil Daniels, am ei ddelwedd o Afon Llwyd, yn Abersychan, a ffotograff Paul Villa o’r gamlas yn Sebastopol a ddaeth yn drydydd.

Bydd y tri yn cael eu harddangos yn hwb lles amlbwrpas newydd Cyngor Torfaen yng Nghwmbrân, sydd i agor y mis nesaf. 

Meddai Joanne Newman, Rheolwr Grŵp Gwasanaethau Oedolion: “Roeddem wrth ein boddau gyda’r lliw a’r heddwch yn ffotograff James. 

“Thema’r gystadleuaeth oedd Golygfeydd a Natur o Amgylch Dyfrffyrdd Torfaen, a chawsom ein synnu gan y nifer o bobl  a gymerodd ran, a chyda safon eithriadol uchel y ffotograffau. Diolch i bawb a gymerodd ran.” 

 Ychwanegodd y Cynghorydd David Daniels, Aelod Gweithredol ar gyfer Gwasanaethau Oedolion: “Mae’r delweddau yma wirioneddol yn dathlu harddwch dyfrffyrdd Torfaen, ac rydym yn gobeithio y bydd pawb sy’n ymweld â’r ganolfan yn eu mwynhau.” 

Ynghyd â chael arddangos eu ffotograffau, bydd y buddugol yn ennill tocyn rhodd £25, gyda’r ail a’r trydydd yn cael £15 a £10 yn eu tro. 

Bydd Tŷ Glas y Dorlan (The Kingisher), yn Thornhill, yn cynnig cymysgedd o denantiaethau fflat hirdymor, gofal seibiant a chyfleusterau cyffredin.  

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor Torfaen. 

Diwygiwyd Diwethaf: 21/01/2022 Nôl i’r Brig