Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 15 Hydref 2021
Mae Cyngor Torfaen wedi cael gwybod y bydd gyrwyr cwmni bysiau mwyaf y DU yn mynd ar streic am dair wythnos mewn anghydfod ynglŷn â chyflog.
Bydd staff yng nghanolfannau Stagecoach yng Nghwmbrân, Brynmawr a’r Coed Duon yn gweithredu’n ddiwydiannol trwy gydol Hydref a Thachwedd.
Bydd hyn yn effeithio ar wasanaethau bysiau lleol a chytundebau trafnidiaeth ysgol gyda Stagecoach yn Nhorfaen.
Disgwylir i’r gweithredu diwydiannol ddechrau ar 19eg Hydref a bydd yn parhau ar ddiwrnodau amrywiol hyd at, ac yn cynnwys, 13eg Tachwedd.
Y diwrnodau y bydd streic gan yrwyr Stagecoach yw:
- O 2am ar 19 Hydref tan 1.59am ar 26 Hydref
- O 2am ar 29 Hydref tan 1.59am ar 31 Hydref
- O 2am ar 1 Tachwedd tan 1.59am ar 10 Tachwedd
- O 2am ar 12 Tachwedd tan 1.59am ar 13 Tachwedd
Mae’r cyngor wedi derbyn sicrwydd y bydd y 435 o ddisgyblion sy’n cael eu cludo i’r ysgol gan Stagecoach De Cymru o dan gytundebau cludiant i’r ysgol yn parhau i gael eu cludo trwy gydol y cyfnod yma.
Serch hynny, mae’r sefyllfa’n gyfnewidiol a gallai pethau newid ar fyr rybudd.
Mae disgyblion nad ydynt yn derbyn cludiant i’r ysgol am ddim ac sy’n talu i ddefnyddio bysiau Stagecoach i deithio i’r ysgol ac yn ôl yn cael eu cynghori i wneud trefniadau eraill yn ystod y cyfnod yma.