Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 8 Hydref 2021
Mae Cyngor Torfaen yn annog perchnogion cŵn i wneud y peth iawn a chodi baw eu hanifeiliaid anwes fel rhan o ymgyrch cenedlaethol newydd gan Cadwch Gymru’n Daclus.
Er yr amcangyfrifir bod naw allan o ddeg o berchnogion cŵn yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes, mae baw ci yn dal yn broblem mewn cymunedau ar draws y wlad. Nod ymgyrch Cadwch Gymru’n Daclus yw codi ymwybyddiaeth o’r peryglon iechyd sydd yn gysylltiedig â baw cŵn; nid yn unig i bobl ond hefyd i anifeiliaid fferm ac anifeiliaid anwes eraill.
Gall baw ci sydd wedi ei adael ar ôl gario bacteria niweidiol all barhau yn y pridd ymhell ar ôl iddo bydru.
Mae’r ymgyrch cenedlaethol yn cael ei gynnal fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol sydd yn cael ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus ac awdurdodau lleol i ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.
Yn seiliedig ar ymchwil gan arbenigwyr newid ymddygiad, bydd arwyddion pinc llachar yn ymddangos ar draws Torfaen i ‘ysgogi’ pobl i wneud y penderfyniad iawn.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Rydym yn annog pawb i gefnogi’r ymgyrch yma fel y gallwn ni gadw Torfaen fel lle glân i fyw ynddo ac ymweld ag e.
“Hoffem ddiolch i berchnogion cyfrifol am godi baw eu cŵn. Dyw hyn ddim yn bleserus, ond mae’n bwysig.
“Yn anffodus, mae yna nifer fach o berchnogion cŵn nad ydynt yn codi baw eu cŵn, felly rydyn ni’n gofyn iddyn nhw ddechrau gwneud hynny. Mae biniau sbwriel wedi'u lleoli ledled y fwrdeistref felly does dim rhaid iddyn nhw fynd â'r baw adref. Rydym yn ceisio gwneud i waredu baw cŵn fod mor hawdd â phosibl, ond mae angen cymorth perchnogion cŵn arnom ni i gadw’r fwrdeistref yn lân.”
Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:
“Rydym yn llawn cyffro yn lansio’r ymgyrch pwysig hwn gyda’n partneriaid mewn awdurdodau lleol. Fel cenedl sydd yn caru cŵn, dylem i gyd fod yn ymwybodol nad llanast amhleserus yn unig yw baw ci, gall fod yn beryglus.
“Rydym yn annog y lleiafrif bach o berchnogion cŵn anghyfrifol i wneud y peth iawn. Trwy beidio â chodi baw eich ci, gallech fod yn peryglu pobl, anifeiliaid fferm, a’n hanifeiliaid anwes annwyl. Bagiwch, biniwch a gadael olion pawen yn unig pan fyddwch allan.”
Mae pobl yn Nhorfaen ac ar draws Cymru yn cael eu hannog i ymuno â’r ymgyrch newydd. Ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus i ganfod mwy a lawrlwytho deunyddiau am ddim: www.keepwalestidy.cymru/caru-cymru
Mae Caru Cymru wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Let us know if there is a dog poo issue in your area by contacting 01495 762200 or emailing streetscene@torfaen.gov.uk