Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 8 Hydref 2021
Daeth mwy na 170 o bobl ynghyd ddydd Sadwrn 2 Hydref i ddathlu'r achlysur gyntaf erioed i Wobrwyo Cymuned a Gwirfoddolwyr Torfaen yng Nghanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl.
Agorwyd y seremoni wobrwyo yn swyddogol gan y Brigadydd Robert Aitken CBE, Arglwydd Raglaw Gwent, ac wrth y llyw oedd Sean Holley, darlledwr chwaraeon yng Nghymru, a darlledwr CGT ei hun, Patrick Downes.
Bryony Powell, 11 oed gipiodd Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn, am gefnogi llawer o brosiectau ar draws Torfaen. Cyflawniad mwyaf Bryony oedd helpu i ddarparu 150 o becynnau Lles i deuluoedd bregus ym Mlaenafon yn ystod y cyfnod clo.
Janette Smith, 82 oed aeth â'r Wobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn i Oedolion, yn rhannol am roi dros 15 mlynedd o’i bywyd i wella bywydau eraill yn yr ardal leol. Mae Jan wedi bod yn ffigwr allweddol fel aelod o grŵp Cymunedol Hafod.
Ymhlith yr enillwyr eraill oedd:
- Daniel Crandon – Ymddiriedolwr y Flwyddyn
- Gweithwyr Achos Gwirfoddol y Prosiect Cyngor ar Anabledd. - Gwobr Calon y Gymuned
- Chris Partridge - Gwirfoddolwr Amgylcheddol y Flwyddyn
- Chloe Goddard – Siwrnai Bersonol
- Sabrina Cresswell – Gwirfoddolwr Ymateb i COVID-19 (Arwyr)
- Age Connects Torfaen – Busnes y Flwyddyn
- Matt Cummins – Gwirfoddolwr Chwaraeon y Flwyddyn
- Allan Hiatt – Gwirfoddolwr Iechyd y Flwyddyn
Cyflwynwyd mwy na 100 o enwebiadau ar gyfer y gwobrau, ar draws 10 categori.
Fe wnaeth 22 o fusnesau lleol hefyd noddi'r gwobrau i sicrhau bod arwyr di-glod Torfaen yn derbyn dathliad bythgofiadwy.
Dywedodd Aimi Morris, Swyddog Gweithredol Cynghrair Gwirfoddol Torfaen, ,
“Anrhydedd llwyr oedd bod yng nghwmni'r fath wŷr pwysig a gefnogodd ein dathliadau, Arglwydd Raglaw Gwent, Uchel Siryf Gwent, a Lynne Neagle AS, a roddodd o’u hamser i wireddu’r dathliad hwn.
Roedd y noson yn ffordd o ddweud diolch yn fawr wrth bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol, heb anghofio pawb a gafodd eu henwebu - mae pob un ohonoch yn enillwyr teilwng.
P'un ai’n helpu i ddarparu ar gyfer y digartref, sicrhau bod gan y bobl ifanc yn Nhorfaen fentoriaid cywir, gwirfoddoli mewn ysgolion, neu gadw'r celfyddydau a'n hanes yn fyw yn ein cymunedau, maent i gyd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr.
Edrychwn ymlaen yn fawr at y cyfle i ddechrau cynllunio 2022!”
Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol Torfaen dros Blant, Teuluoedd a Chymunedau, “Roedd yn bleser bod yn bresennol yn y seremoni gyntaf o’r math yma i wirfoddolwyr yn Nhorfaen. Mae cymaint o storïau twymgalon yn dangos sut aeth unigolion a grwpiau yr ail filltir yn ystod y pandemig i helpu eraill.
Llongyfarchiadau mawr i’r rheiny a gafodd eu gwobrwyo a gadewch i ni i gyd edrych ymlaen at 2022 well. Da iawn i TVA a’r partneriaid i gyd a wnaeth y digwyddiad yma’n ddathliad o wirfoddoli yn Nhorfaen ”.
I weld y rhestr lawn o enwau’r enillwyr ac i gael gwybod mwy am y gwobrau, ewch i
www.tvawales.org.uk/volunteer-awards