Wedi ei bostio ar Dydd Iau 7 Hydref 2021
Yr wythnos nesaf bydd WeCare Wales yn taflu goleuni ar sut beth yw gweithio yn y sectorau gofal cymdeithasol, plant a blynyddoedd cynnar.
Mae’r pandemig Covid-19 wedi cynyddu’n gyflym y galw am wasanaethau gofal cymdeithasol ac mae angen staff newydd i gynorthwyo dinasyddion ledled Gwent.
Drwy gydol Wythnos Gofalwn Cymru, bydd nifer o ddigwyddiadau rhithwir i gynorthwyo’r sawl sy’n chwilio am swyddi gyda diddordeb mewn gyrfa mewn gofal, gyda’r cyfle i gysylltu gyda chyflogwyr lleol a swyddi gwag sy’n agos atoch chi.
Meddai Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol a Thai Torfaen, Keith Rutherford: “Mae ein gweithlu gofal cymdeithasol yn parhau i ddarparu safonau eithriadol o ofal yn y gymuned.
“Fodd bynnag, gyda’r galw’n cynyddu rydym angen mwy o bobl i ymuno â’r sector nag erioed o’r blaen. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth positif i bobl yn eich cymuned, yna rydym eisiau clywed gennych. Cymerwch ran yn Wythnos Gofalwn Cymru a dod yn llinell bywyd sydd ei hangen ar eich cymuned.”
Os hoffech gael gwybod mwy am weithio mewn gofal cymdeithasol, ynghyd â swyddi gwag presennol yn eich ardal leol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn Gofalwn Cymru ar Instagram, Facebook a Twitter a chael y newyddion diweddaraf am Wythnos Gofalwn Cymru #WeCareWalesWeek.
Gallwch hefyd fynd i borth swyddi Gofalwn Cymru i weld y swyddi gwag sydd ar gael ar hyn o bryd: Swyddi - Gofalwn neu edrychwch ar wefan eich awdurdod lleol.