Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 6 Hydref 2021
Mae prosiectau Cymunedau am Waith a Chymunedau am Waith a Mwy yn Nhorfaen yn apelio i bobl gwblhau arolwg arlein byr ynglŷn â’u statws cyflogaeth ac iechyd.
Os oes cyflwr iechyd erioed wedi eich rhwystro rhag cael gwaith neu symud ymlaen yn y lle gwaith, rydym eisiau clywed am eich profiadau.
Os gwelwch yn dda, sbariwch 5 munud o’ch amser i gwblhau ein harolwg di-enw. Bydd yr arolwg yn ein helpu i adnabod bylchau yn y ddarpariaeth a datblygu cymorth pellach i sicrhau bod mwy o bobl yn cael eu cefnogi gan y gwasanaeth.
Cwblhewch yr arolwg yma:
Saesneg: https://forms.gle/UsyGkwLLd4We9Yc19
Cymraeg: https://forms.gle/j4pMiDG4N8gxSqdk6
Mae prosiectau Cymunedau am Waith eisoes wedi cefnogi cannoedd o bobl leol i fynd yn ôl i’r gwaith a chael hyfforddiant, gan weithio gyda nhw i oresgyn llawer o rwystrau cysylltiedig ag iechyd.
Maent yn cynnig pecyn penodol o gymorth sy’n cynnwys:
- Cymorth ymroddedig gan fentoriaid profiadol a chyfeillgar
- Cymorth gydag addasiadau rhesymol
- Mynediad at gyllid ar gyfer:
- Hyfforddiant
- Gofal Plant
- Costau cludiant
- Offer
- Hunan-gyflogaeth
- Adnabod Cyflogwyr sy’n Hyderus o ran Cyflogi Pobl Anabl
- Cymorth cyflogaeth gan gynnwys cyngor arbenigol ar CV, ceisiadau a chyfweliadau – oll wedi ei deilwra fel ei fod yn addas i bob unigolyn
- Cymorth i gael mynediad at gyfleoedd gwirfoddoli
- Cymorth mewn gwaith ac addasiadau sy’n benodol i’r gwaith
- Cyngor a chymorth ariannol
- Cymorth cofleidiol ar gyfer iechyd a lles
Gallwch eu gweld arlein yn:
www.cfwplustorfaen.co.uk
Facebook: https://www.facebook.com/cfwplustorfaen
Twitter: https://twitter.com/cfwplustorfaen
Instagram: https://www.instagram.com/cfwplustorfaen/
LinkedIn: https://www.linkedin.com/.../communities-for-work-plus.../
Fel arall, ffoniwch y tîm ar 01495 742131 neu 01633 648312 neu ebostiwch cfwplus@torfaen.gov.uk