Wedi ei bostio ar Dydd Llun 4 Hydref 2021
Mae nifer o ddrysau ffrynt maint llawn wedi eu dadorchuddio y tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd, gan amlygu’r sawl sydd wedi agor eu cartrefi i blant maeth yng Nghymru.
Mae’r rhwydwaith newydd o 22 gwasanaeth maethu Awdurdod Lleol ledled y wlad, Maethu Cymru, yn gwahodd y cyhoedd i ystyried agor eu cartrefi i helpu i letya y nifer o blant yng Nghymru sydd angen gofal a chymorth.
Mae Maethu Cymru yn gweithio tuag at gynyddu nifer y gofalwyr maeth mewn Awdurdodau Lleol yng Nghymru i helpu i gadw plant yn eu hardal leol, pan fo hynny’r peth iawn iddynt.
Ar ddiwedd mis Mawrth 2020, datgelodd ystadegau Llywodraeth Cymru fod 84% o blant sy'n byw gyda theuluoedd maeth yn dal i allu byw yn eu hardal eu hunain, gan gadw'n gyfarwydd â'r gymuned yr oeddent eisoes yn ei hadnabod.
Nod Maethu Cymru yw annog y rhai sy'n ystyried maethu i wneud hynny yn eu hawdurdod lleol fel y gall perthnasoedd pwysig, a all helpu plant i ffynnu, barhau.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Dros Wasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, "Mae gofalwyr maeth yng Nghymru wedi dweud wrthyf droeon am ba mor werthfawr y gall y profiad o ofalu am blentyn fod. Rwy'n annog unrhyw un sy'n gallu agor eu cartref fel bod y plant hynny sydd angen ein help yn gallu byw plentyndod hapusach a datblygu i fod y bobl maen nhw’n dymuno cael bod."
Mae dadorchuddio drysau ffrynt o faint go iawn heddiw yn cynrychioli pob un o'r 22 Awdurdod Lleol a'r nod cenedlaethol cyfunol o gydweithio i helpu i adeiladu dyfodol gwell i blant yng Nghymru.
Meddai Joy, gofalwr maeth Awdurdod Lleol sy’n gweithio gyda Maethu Cymru Torfaen, “Rwy’n caru maethu, ni allaf feddwl am unrhyw beth arall y byddai’n well gennyf ei wneud. Mae maethu wedi newid bywyd ein teulu, mae pob diwrnod yn her newydd ac yn dod â gwobrau newydd.
“Roedd wastad yn rhywbeth roeddwn eisiau ei wneud a’r unig ofid sydd gennyf yw na wnes i hyn ynghynt. Cyn gynted ag y cychwynnodd y broses, dysgasom beth y byddai’r siwrnai hon yn ei olygu, a’r rôl arwyddocaol y byddem yn ei chwarae. Roedd yn ddychryn braidd, ond rydym mor falch ein bod wedi gwneud hyn.
“I ni, roedd maethu gyda’n hawdurdod lleol mor naturiol. Roeddem eisiau cefnogi plant/pobl ifanc o’n cymuned i’w helpu nhw i gadw mewn cysylltiad a theimlo eu bod yn perthyn. Mae’r plant yn ein gwneud yn falch bob dydd.
“Os ydych yn meddwl am faethu, codwch y ffôn oherwydd gallwch wneud gwahaniaeth a newid bywyd plentyn a rhannu’r cariad sydd gennych.”
Mae Maethu Cymru yn annog mwy o bobl fel Joy i agor eu cartrefi i helpu i adeiladu dyfodol gwell i blant lleol mewn angen.
Mae digwyddiad heddiw yn dilyn lansiad diweddar ymgyrch ehangach Maethu Cymru sydd â'r nod o gael effaith genedlaethol sylweddol ar ddyfodol pobl ifanc yng Nghymru.
Os ydych chi'n ystyried agor eich cartref i faethu plentyn, yna gwnewch gais i ddod yn ofalwr maeth awdurdod lleol heddiw yn www.fosterwales.torfaen.gov.uk